Luc 6:32-36
Luc 6:32-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Pam dylech chi gael eich canmol am garu’r bobl hynny sy’n eich caru chi? Mae hyd yn oed ‘pechaduriaid’ yn gwneud hynny! Neu am wneud ffafr i’r rhai sy’n gwneud ffafr i chi? Mae ‘pechaduriaid’ yn gwneud hynny hefyd! Neu os dych chi’n benthyg i’r bobl hynny sy’n gallu’ch talu chi’n ôl, beth wedyn? Mae hyd yn oed ‘pechaduriaid’ yn fodlon benthyg i’w pobl eu hunain – ac yn disgwyl cael eu talu yn ôl yn llawn! Carwch chi eich gelynion. Gwnewch ddaioni iddyn nhw. Rhowch fenthyg iddyn nhw heb ddisgwyl cael dim byd yn ôl. Cewch chi wobr fawr am wneud hynny. Bydd hi’n amlwg eich bod yn blant i’r Duw Goruchaf, am mai dyna’r math o beth mae e’n ei wneud – mae’n garedig i bobl anniolchgar a drwg. Rhaid i chi fod yn garedig, fel mae Duw eich tad yn garedig.
Luc 6:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Os ydych yn caru'r rhai sy'n eich caru chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru'r rhai sy'n eu caru hwy. Ac os gwnewch ddaioni i'r rhai sy'n gwneud daioni i chwi, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneud cymaint â hynny. Os rhowch fenthyg i'r rhai yr ydych yn disgwyl derbyn ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? Y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid dim ond iddynt gael yr un faint yn ôl. Nage, carwch eich gelynion a gwnewch ddaioni a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl. Bydd eich gwobr yn fawr a byddwch yn blant y Goruchaf, oherwydd y mae ef yn garedig wrth yr anniolchgar a'r drygionus. Byddwch yn drugarog fel y mae eich Tad yn drugarog.
Luc 6:32-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru’r rhai a’u câr hwythau. Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth. Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb. Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf: canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg. Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.