Luc 5:5-8
Luc 5:5-8 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Meistr,” meddai Simon wrtho, “buon ni’n gweithio’n galed drwy’r nos neithiwr heb ddal dim byd! Ond am mai ti sy’n gofyn, gollynga i y rhwydi.” Dyna wnaethon nhw a dyma nhw’n dal cymaint o bysgod nes i’r rhwydi ddechrau rhwygo. Dyma nhw’n galw ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i’w helpu. Pan ddaeth y rheiny, cafodd y ddau gwch eu llenwi â chymaint o bysgod nes eu bod bron â suddo! Pan welodd Simon Pedr beth oedd wedi digwydd, syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a dweud, “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd; dw i’n ormod o bechadur!”
Luc 5:5-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Simon, “Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau.” Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron â rhwygo. Amneidiasant ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w cynorthwyo. Daethant hwy, a llwythasant y ddau gwch nes eu bod ar suddo. Pan welodd Simon Pedr hyn syrthiodd wrth liniau Iesu gan ddweud, “Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi, Arglwydd.”
Luc 5:5-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwynt a rwygodd. A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi. A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd.