Luc 5:27-32
Luc 5:27-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl hyn aeth Iesu allan a gwelodd un oedd yn casglu trethi i Rufain, dyn o’r enw Lefi, yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a dyma Lefi’n codi ar unwaith, gadael popeth, a mynd ar ei ôl. Dyma Lefi yn trefnu parti mawr i Iesu yn ei dŷ, ac roedd criw mawr o ddynion oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill yno’n bwyta gyda nhw. Ond dyma’r Phariseaid a’u harbenigwyr nhw yn y Gyfraith yn cwyno i’w ddisgyblion, “Pam dych chi’n bwyta ac yfed gyda’r bradwyr sy’n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy’n ddim byd ond ‘pechaduriaid’?” Dyma Iesu’n eu hateb nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw, dim y rhai sy’n meddwl eu bod nhw heb fai.”
Luc 5:27-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi hyn aeth allan ac edrychodd ar gasglwr trethi o'r enw Lefi, a oedd yn eistedd wrth y dollfa, ac meddai wrtho, “Canlyn fi.” A chan adael popeth cododd yntau a'i ganlyn. Yna gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa niferus o gasglwyr trethi ac eraill yn cydfwyta gyda hwy. Yr oedd y Phariseaid a'u hysgrifenyddion yn grwgnach wrth ei ddisgyblion gan ddweud, “Pam yr ydych yn bwyta ac yn yfed gyda chasglwyr trethi a phechaduriaid?” Atebodd Iesu hwy, “Nid ar rai iach, ond ar y cleifion y mae angen meddyg; i alw pechaduriaid i edifeirwch, nid rhai cyfiawn, yr wyf fi wedi dod.”
Luc 5:27-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi. Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a’i dilynodd ef. A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd. Eithr eu hysgrifenyddion a’u Phariseaid hwynt a furmurasant yn erbyn ei ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid? A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion. Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.