Luc 5:22-24
Luc 5:22-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd drwy’u meddyliau, a gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi’n meddwl mod i’n cablu? Ydy’n haws dweud ‘Mae dy bechodau wedi’u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’? Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear.” A dyma Iesu’n troi at y dyn oedd wedi’i barlysu a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.”
Luc 5:22-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond synhwyrodd Iesu eu meddyliau, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn meddwl fel hyn ynoch eich hunain? P'run sydd hawsaf, ai dweud, ‘Y mae dy bechodau wedi eu maddau iti’, ai ynteu dweud, ‘Cod a cherdda’? Ond er mwyn i chwi wybod fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau”—meddai wrth y claf, “Dyma fi'n dweud wrthyt, cod a chymer dy wely a dos adref.”
Luc 5:22-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych? Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ.