Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 5:17-26

Luc 5:17-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Un diwrnod, pan oedd Iesu wrthi’n dysgu’r bobl, roedd Phariseaid ac arbenigwyr yn y Gyfraith yn eistedd, heb fod yn bell, yn gwrando arno. (Roedden nhw wedi dod yno o bob rhan o Galilea, a hefyd o Jwdea a Jerwsalem.) Ac roedd nerth yr Arglwydd yn galluogi Iesu i iacháu pobl. A dyma ryw bobl yn dod â dyn oedd wedi’i barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Roedden nhw’n ceisio mynd i mewn i’w osod i orwedd o flaen Iesu. Pan wnaethon nhw fethu gwneud hynny am fod yno gymaint o dyrfa, dyma nhw’n mynd i fyny ar y to a thynnu teils o’r to i’w ollwng i lawr ar ei fatras i ganol y dyrfa, reit o flaen Iesu. Pan welodd Iesu’r ffydd oedd ganddyn nhw, dwedodd wrth y dyn, “Mae dy bechodau wedi’u maddau.” Dyma’r Phariseaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dechrau meddwl, “Pwy ydy hwn, ei fod yn cablu fel hyn? Duw ydy’r unig un sy’n gallu maddau pechodau!” Roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd drwy’u meddyliau, a gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi’n meddwl mod i’n cablu? Ydy’n haws dweud ‘Mae dy bechodau wedi’u maddau,’ neu ‘Cod ar dy draed a cherdda’? Cewch weld fod gen i, Fab y Dyn, hawl i faddau pechodau ar y ddaear.” A dyma Iesu’n troi at y dyn oedd wedi’i barlysu a dweud wrtho, “Cod ar dy draed, cymer dy fatras, a dos adre.” A dyna’n union wnaeth y dyn! Cododd ar ei draed o flaen pawb yn y fan a’r lle, cymryd y fatras roedd wedi bod yn gorwedd arni, ac aeth adre gan foli Duw. Roedd pawb wedi’u syfrdanu’n llwyr ac roedden nhw hefyd yn moli Duw. “Dŷn ni wedi gweld pethau anhygoel heddiw,” medden nhw.

Luc 5:17-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt. Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef. A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu. A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau. A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig? A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych? Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia? Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ. Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw. A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.