Luc 5:1-6
Luc 5:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Unwaith pan oedd y dyrfa'n gwasgu ato ac yn gwrando ar air Duw, ac ef ei hun yn sefyll ar lan Llyn Genesaret, gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y lan. Yr oedd y pysgotwyr wedi dod allan ohonynt, ac yr oeddent yn golchi eu rhwydau. Aeth ef i mewn i un o'r cychod, eiddo Simon, a gofyn iddo wthio allan ychydig o'r tir; yna eisteddodd, a dechrau dysgu'r tyrfaoedd o'r cwch. Pan orffennodd lefaru dywedodd wrth Simon, “Dos allan i'r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa.” Atebodd Simon, “Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau.” Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron â rhwygo.
Luc 5:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un diwrnod roedd Iesu’n sefyll ar lan Llyn Galilea, ac roedd tyrfa o bobl o’i gwmpas yn gwthio ymlaen i wrando ar neges Duw. Gwelodd fod dau gwch wedi’u gadael ar y lan tra oedd y pysgotwyr wrthi’n golchi eu rhwydi. Aeth i mewn i un o’r cychod, a gofyn i Simon, y perchennog, ei wthio allan ychydig oddi wrth y lan. Yna eisteddodd a dechrau dysgu’r bobl o’r cwch. Pan oedd wedi gorffen siarad dwedodd wrth Simon, “Dos â’r cwch allan lle mae’r dŵr yn ddwfn, a gollwng y rhwydi i ti gael dalfa o bysgod.” “Meistr,” meddai Simon wrtho, “buon ni’n gweithio’n galed drwy’r nos neithiwr heb ddal dim byd! Ond am mai ti sy’n gofyn, gollynga i y rhwydi.” Dyna wnaethon nhw a dyma nhw’n dal cymaint o bysgod nes i’r rhwydi ddechrau rhwygo.
Luc 5:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bu hefyd, a’r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret; Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a’r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. Ac efe a aeth i mewn i un o’r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r llong. A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa. A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwynt a rwygodd.