Luc 5:1-11
Luc 5:1-11 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Un diwrnod roedd Iesu’n sefyll ar lan Llyn Galilea, ac roedd tyrfa o bobl o’i gwmpas yn gwthio ymlaen i wrando ar neges Duw. Gwelodd fod dau gwch wedi’u gadael ar y lan tra oedd y pysgotwyr wrthi’n golchi eu rhwydi. Aeth i mewn i un o’r cychod, a gofyn i Simon, y perchennog, ei wthio allan ychydig oddi wrth y lan. Yna eisteddodd a dechrau dysgu’r bobl o’r cwch. Pan oedd wedi gorffen siarad dwedodd wrth Simon, “Dos â’r cwch allan lle mae’r dŵr yn ddwfn, a gollwng y rhwydi i ti gael dalfa o bysgod.” “Meistr,” meddai Simon wrtho, “buon ni’n gweithio’n galed drwy’r nos neithiwr heb ddal dim byd! Ond am mai ti sy’n gofyn, gollynga i y rhwydi.” Dyna wnaethon nhw a dyma nhw’n dal cymaint o bysgod nes i’r rhwydi ddechrau rhwygo. Dyma nhw’n galw ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i’w helpu. Pan ddaeth y rheiny, cafodd y ddau gwch eu llenwi â chymaint o bysgod nes eu bod bron â suddo! Pan welodd Simon Pedr beth oedd wedi digwydd, syrthiodd ar ei liniau o flaen Iesu a dweud, “Dos i ffwrdd oddi wrtho i, Arglwydd; dw i’n ormod o bechadur!” Roedd Simon a’i gydweithwyr wedi dychryn wrth weld faint o bysgod gafodd eu dal; ac felly hefyd partneriaid Simon – Iago ac Ioan, meibion Sebedeus. Dyma Iesu’n dweud wrth Simon, “Paid bod ofn; o hyn ymlaen byddi di’n dal pobl yn lle pysgod.” Felly ar ôl llusgo eu cychod i’r lan, dyma nhw’n gadael popeth i fynd ar ei ôl.
Luc 5:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Unwaith pan oedd y dyrfa'n gwasgu ato ac yn gwrando ar air Duw, ac ef ei hun yn sefyll ar lan Llyn Genesaret, gwelodd ddau gwch yn sefyll wrth y lan. Yr oedd y pysgotwyr wedi dod allan ohonynt, ac yr oeddent yn golchi eu rhwydau. Aeth ef i mewn i un o'r cychod, eiddo Simon, a gofyn iddo wthio allan ychydig o'r tir; yna eisteddodd, a dechrau dysgu'r tyrfaoedd o'r cwch. Pan orffennodd lefaru dywedodd wrth Simon, “Dos allan i'r dŵr dwfn, a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa.” Atebodd Simon, “Meistr, drwy gydol y nos buom yn llafurio heb ddal dim, ond ar dy air di mi ollyngaf y rhwydau.” Gwnaethant hyn, a daliasant nifer enfawr o bysgod, nes bod eu rhwydau bron â rhwygo. Amneidiasant ar eu partneriaid yn y cwch arall i ddod i'w cynorthwyo. Daethant hwy, a llwythasant y ddau gwch nes eu bod ar suddo. Pan welodd Simon Pedr hyn syrthiodd wrth liniau Iesu gan ddweud, “Dos ymaith oddi wrthyf, oherwydd dyn pechadurus wyf fi, Arglwydd.” Yr oedd ef, a phawb oedd gydag ef, wedi eu syfrdanu o weld y llwyth pysgod yr oeddent wedi eu dal; a'r un modd Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn bartneriaid i Simon. Ac meddai Iesu wrth Simon, “Paid ag ofni; o hyn allan dal dynion y byddi di.” Yna daethant â'r cychod yn ôl i'r lan, a gadael popeth, a'i ganlyn ef.
Luc 5:1-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Bu hefyd, a’r bobl yn pwyso ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau yn sefyll yn ymyl llyn Gennesaret; Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a’r pysgodwyr a aethent allan ohonynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. Ac efe a aeth i mewn i un o’r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodd y bobloedd allan o’r llong. A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa. A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd. Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o bysgod: a’u rhwyd hwynt a rwygodd. A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion, oedd yn y llong arall, i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant; a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi. A Simon Pedr, pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddi wrthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd. Oblegid braw a ddaethai arno ef, a’r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy; A’r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion. Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.