Luc 3:16-22
Luc 3:16-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond ateb Ioan iddyn nhw i gyd oedd, “Dŵr dw i’n ei ddefnyddio i’ch bedyddio chi. Ond mae un llawer mwy grymus na fi yn dod yn fuan – rhywun sydd mor bwysig, fyddwn i ddim yn deilwng o fod yn gaethwas sy’n datod carrai ei sandalau hyd yn oed! Bydd hwnnw yn eich bedyddio chi gyda’r Ysbryd Glân a gyda thân. Mae ganddo fforch nithio yn ei law i wahanu’r grawn a’r us. Bydd yn clirio’r llawr dyrnu, yn casglu’r gwenith i’w ysgubor ac yn llosgi’r us mewn tân sydd byth yn diffodd.” Roedd Ioan yn dweud llawer o bethau eraill tebyg wrth annog y bobl a chyhoeddi’r newyddion da iddyn nhw. Ond yna dyma Ioan yn ceryddu Herod, y llywodraethwr, yn gyhoeddus. Ei geryddu am ei berthynas gyda Herodias, gwraig ei frawd, ac am lawer o bethau drwg eraill roedd wedi’u gwneud. A’r canlyniad oedd i Herod ychwanegu at weddill y drygioni a wnaeth drwy roi Ioan yn y carchar. Pan oedd Ioan wrthi’n bedyddio’r bobl i gyd, dyma Iesu’n dod i gael ei fedyddio hefyd. Wrth iddo weddïo, dyma’r awyr yn rhwygo’n agored a’r Ysbryd Glân yn disgyn arno – ar ffurf colomen. A dyma lais o’r nefoedd yn dweud: “Ti ydy fy Mab annwyl i; rwyt ti wedi fy mhlesio i’n llwyr.”
Luc 3:16-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
dywedodd ef wrth bawb: “Yr wyf fi yn eich bedyddio â dŵr; ond y mae un cryfach na mi yn dod. Nid wyf fi'n deilwng i ddatod carrai ei sandalau ef. Bydd ef yn eich bedyddio â'r Ysbryd Glân ac â thân. Y mae ei wyntyll yn barod yn ei law, i nithio'n lân yr hyn a ddyrnwyd, ac i gasglu'r grawn i'w ysgubor. Ond am yr us, bydd yn llosgi hwnnw â thân anniffoddadwy.” Fel hyn, a chyda llawer anogaeth arall hefyd, yr oedd yn cyhoeddi'r newydd da i'r bobl. Ond gan ei fod yn ceryddu'r Tywysog Herod ynglŷn â Herodias, gwraig ei frawd, ac ynglŷn â'i holl weithredoedd drygionus, ychwanegodd Herod y drygioni hwn at y cwbl, sef cloi Ioan yng ngharchar. Pan oedd yr holl bobl yn cael eu bedyddio, yr oedd Iesu, ar ôl ei fedydd ef, yn gweddïo. Agorwyd y nef, a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llais o'r nef: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.”
Luc 3:16-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân, ac â thân. Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy. A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl. Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod, A chwanegodd hyn hefyd heblaw’r cwbl, ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar. A bu, pan oeddid yn bedyddio’r holl bobl, a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef, A disgyn o’r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y’m bodlonwyd.