Luc 24:50-53
Luc 24:50-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aeth â hwy allan i gyffiniau Bethania. Yna cododd ei ddwylo a'u bendithio. Wrth iddo'u bendithio, fe ymadawodd â hwy ac fe'i dygwyd i fyny i'r nef. Wedi iddynt ei addoli ar eu gliniau, dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem. Ac yr oeddent yn y deml yn ddi-baid, yn bendithio Duw.
Luc 24:50-53 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma Iesu’n mynd â nhw allan i ymyl Bethania. Wrth iddo godi ei ddwylo i’w bendithio nhw cafodd ei gymryd i ffwrdd i’r nefoedd, ac roedden nhw’n ei addoli. Wedyn dyma nhw’n mynd yn ôl i Jerwsalem yn llawen, a threulio eu hamser i gyd yn y deml yn moli Duw.
Luc 24:50-53 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a’u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt. Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef. Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.