Luc 24:44-53
Luc 24:44-53 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Yna dwedodd wrthyn nhw, “Pan o’n i gyda chi, dwedais fod rhaid i’r cwbl ysgrifennodd Moses amdana i yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau’r Proffwydi a’r Salmau, ddod yn wir.” Wedyn esboniodd iddyn nhw beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall. “Mae’r ysgrifau yn dweud fod y Meseia yn mynd i ddioddef a marw, ac yna dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. Rhaid cyhoeddi’r neges yma yn Jerwsalem a thrwy’r gwledydd i gyd: fod pobl i droi cefn ar eu pechod a bod Duw’n barod i faddau iddyn nhw. Chi ydy’r llygad-dystion sydd wedi gweld y cwbl! Felly dw i’n mynd i anfon beth wnaeth fy Nhad ei addo i chi – arhoswch yma yn y ddinas nes i’r Ysbryd Glân ddod i lawr a’ch gwisgo chi gyda nerth.” Yna dyma Iesu’n mynd â nhw allan i ymyl Bethania. Wrth iddo godi ei ddwylo i’w bendithio nhw cafodd ei gymryd i ffwrdd i’r nefoedd, ac roedden nhw’n ei addoli. Wedyn dyma nhw’n mynd yn ôl i Jerwsalem yn llawen, a threulio eu hamser i gyd yn y deml yn moli Duw.
Luc 24:44-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd wrthynt, “Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau.” Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau. Meddai wrthynt, “Fel hyn y mae'n ysgrifenedig: fod y Meseia i ddioddef, ac i atgyfodi oddi wrth y meirw ar y trydydd dydd, a bod edifeirwch, yn foddion maddeuant pechodau, i'w gyhoeddi yn ei enw ef i'r holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. Chwi yw'r tystion i'r pethau hyn. Ac yn awr yr wyf fi'n anfon arnoch yr hyn a addawodd fy Nhad; chwithau, arhoswch yn y ddinas nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth.” Aeth â hwy allan i gyffiniau Bethania. Yna cododd ei ddwylo a'u bendithio. Wrth iddo'u bendithio, fe ymadawodd â hwy ac fe'i dygwyd i fyny i'r nef. Wedi iddynt ei addoli ar eu gliniau, dychwelsant yn llawen iawn i Jerwsalem. Ac yr oeddent yn y deml yn ddi-baid, yn bendithio Duw.
Luc 24:44-53 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi. Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn. Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder. Ac efe a’u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt. Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef. Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.