Luc 24:44-45
Luc 24:44-45 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dwedodd wrthyn nhw, “Pan o’n i gyda chi, dwedais fod rhaid i’r cwbl ysgrifennodd Moses amdana i yn y Gyfraith, a beth sydd yn llyfrau’r Proffwydi a’r Salmau, ddod yn wir.” Wedyn esboniodd iddyn nhw beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud, er mwyn iddyn nhw ddeall.
Luc 24:44-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd wrthynt, “Dyma ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi: ei bod yn rhaid i bob peth gael ei gyflawni sy'n ysgrifenedig amdanaf yng Nghyfraith Moses a'r proffwydi a'r salmau.” Yna agorodd eu meddyliau, iddynt ddeall yr Ysgrythurau.
Luc 24:44-45 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi. Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau.