Luc 24:13-33
Luc 24:13-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yr un diwrnod, roedd dau o ddilynwyr Iesu ar eu ffordd i bentref Emaus, sydd ryw saith milltir o Jerwsalem. Roedden nhw’n sgwrsio am bopeth oedd wedi digwydd. Wrth i’r drafodaeth fynd yn ei blaen dyma Iesu’n dod atyn nhw a dechrau cerdded gyda nhw. Ond doedden nhw ddim yn sylweddoli pwy oedd e, am fod Duw wedi’u rhwystro rhag ei nabod e. Gofynnodd iddyn nhw, “Am beth dych chi’n dadlau gyda’ch gilydd?” Dyma nhw’n sefyll yn stond. (Roedd eu tristwch i’w weld ar eu hwynebau.) A dyma Cleopas, un ohonyn nhw, yn dweud, “Mae’n rhaid mai ti ydy’r unig berson yn Jerwsalem sydd ddim yn gwybod beth sydd wedi digwydd y dyddiau dwetha yma!” “Gwybod beth?” gofynnodd. “Beth sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Roedd yn broffwyd i Dduw ac yn siaradwr gwych, ac roedd pawb wedi’i weld yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol. Ond dyma’r prif offeiriaid a’r arweinwyr crefyddol eraill yn ei arestio a’i drosglwyddo i’r Rhufeiniaid i gael ei ddedfrydu i farwolaeth, a’i groeshoelio. Roedden ni wedi gobeithio mai fe oedd y Meseia oedd yn mynd i ennill rhyddid i Israel. Digwyddodd hynny echdoe – Ond mae yna fwy … Yn gynnar y bore ma dyma rai o’r merched oedd gyda ni yn mynd at y bedd lle roedd ei gorff wedi cael ei osod, ond doedd y corff ddim yno! Roedden nhw’n dweud eu bod nhw wedi gweld angylion, a bod y rheiny wedi dweud wrthyn nhw fod Iesu’n fyw. Felly dyma rai o’r dynion oedd gyda ni yn mynd at y bedd i edrych, ac roedd popeth yn union fel roedd y gwragedd wedi dweud. Ond welon nhw ddim Iesu o gwbl.” “Dych chi mor ddwl!” meddai Iesu wrth y ddau roedd e’n cerdded gyda nhw, “Pam dych chi’n ei chael hi mor anodd i gredu’r cwbl ddwedodd y proffwydi? Maen nhw’n dweud fod rhaid i’r Meseia ddioddef fel hyn cyn iddo gael ei anrhydeddu!” A dyma Iesu’n mynd dros bopeth ac yn esbonio iddyn nhw beth roedd Moses a’r proffwydi eraill wedi’i ddweud amdano yn yr ysgrifau sanctaidd. Pan oedden nhw bron â chyrraedd pen y daith, dyma Iesu’n dweud ei fod e’n mynd yn ei flaen. Ond dyma nhw’n erfyn yn daer arno: “Tyrd i aros gyda ni dros nos; mae’n mynd yn hwyr.” Felly aeth i aros gyda nhw. Pan oedden nhw’n eistedd wrth y bwrdd i fwyta, cymerodd dorth o fara, ac adrodd y weddi o ddiolch cyn ei thorri a’i rhannu iddyn nhw. Yn sydyn dyma nhw’n sylweddoli mai Iesu oedd gyda nhw, a’r foment honno diflannodd o’u golwg. Dyma nhw’n dweud wrth ei gilydd, “Roedden ni’n teimlo rhyw wefr, fel petai’n calonnau ni ar dân, wrth iddo siarad â ni ar y ffordd ac esbonio beth mae’r ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud!” Ymhen dim o amser roedden nhw ar eu ffordd yn ôl i Jerwsalem. Dyma nhw’n dod o hyd i’r un ar ddeg disgybl a phawb arall gyda nhw
Luc 24:13-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn awr, yr un dydd, yr oedd dau ohonynt ar eu ffordd i bentref, oddeutu un cilomedr ar ddeg o Jerwsalem, o'r enw Emaus. Yr oeddent yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl ddigwyddiadau hyn. Yn ystod yr ymddiddan a'r trafod, nesaodd Iesu ei hun atynt a dechrau cerdded gyda hwy, ond rhwystrwyd eu llygaid rhag ei adnabod ef. Meddai wrthynt, “Beth yw'r sylwadau hyn yr ydych yn eu cyfnewid wrth gerdded?” Safasant hwy, a'u digalondid yn eu hwynebau. Atebodd yr un o'r enw Cleopas, “Rhaid mai ti yw'r unig ymwelydd â Jerwsalem nad yw'n gwybod am y pethau sydd wedi digwydd yno y dyddiau diwethaf hyn.” “Pa bethau?” meddai wrthynt. Atebasant hwythau, “Y pethau sydd wedi digwydd i Iesu o Nasareth, dyn oedd yn broffwyd nerthol ei weithredoedd a'i eiriau yng ngŵydd Duw a'r holl bobl. Traddododd ein prif offeiriaid ac aelodau ein Cyngor ef i'w ddedfrydu i farwolaeth, ac fe'i croeshoeliasant. Ein gobaith ni oedd mai ef oedd yr un oedd yn mynd i brynu Israel i ryddid, ond at hyn oll, heddiw yw'r trydydd dydd er pan ddigwyddodd y pethau hyn. Er hynny, fe'n syfrdanwyd gan rai gwragedd o'n plith; aethant yn y bore bach at y bedd, a methasant gael ei gorff, ond dychwelsant gan daeru eu bod wedi gweld angylion yn ymddangos, a bod y rheini'n dweud ei fod ef yn fyw. Aeth rhai o'n cwmni allan at y bedd, a'i gael yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ni welsant mohono ef.” Meddai Iesu wrthynt, “Mor ddiddeall ydych, ac mor araf yw eich calonnau i gredu'r cwbl a lefarodd y proffwydi! Onid oedd yn rhaid i'r Meseia ddioddef y pethau hyn, a mynd i mewn i'w ogoniant?” A chan ddechrau gyda Moses a'r holl broffwydi, dehonglodd iddynt y pethau a ysgrifennwyd amdano ef ei hun yn yr holl Ysgrythurau. Wedi iddynt nesáu at y pentref yr oeddent ar eu ffordd iddo, cymerodd ef arno ei fod yn mynd ymhellach. Ond meddent wrtho, gan bwyso arno, “Aros gyda ni, oherwydd y mae hi'n nosi, a'r dydd yn dirwyn i ben.” Yna aeth i mewn i aros gyda hwy. Wedi cymryd ei le wrth y bwrdd gyda hwy, cymerodd y bara a bendithio, a'i dorri a'i roi iddynt. Agorwyd eu llygaid hwy, ac adnabuasant ef. A diflannodd ef o'u golwg. Meddent wrth ei gilydd, “Onid oedd ein calonnau ar dân ynom wrth iddo siarad â ni ar y ffordd, pan oedd yn egluro'r Ysgrythurau inni?” Codasant ar unwaith a dychwelyd i Jerwsalem. Cawsant yr un ar ddeg a'u dilynwyr wedi ymgynnull ynghyd
Luc 24:13-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem. Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â’i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist? Ac un ohonynt, a’i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, yr hwn oedd ŵr o broffwyd, galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl; A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croeshoeliasant ef. Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd: A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw. A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai’r gwragedd: ond ef nis gwelsant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proffwydi! Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant? A chan ddechrau ar Moses, a’r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun. Ac yr oeddynt yn nesáu i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach. A hwy a’i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt. A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt. A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau? A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r sawl oedd gyda hwynt