Luc 24:1-12
Luc 24:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn gynnar iawn y bore Sul aeth y gwragedd at y bedd gyda’r perlysiau roedden nhw wedi’u paratoi. Dyma nhw’n darganfod fod y garreg fawr oedd ar geg y bedd wedi’i rholio i ffwrdd, a phan aethon nhw i mewn i’r bedd doedd y corff ddim yno! Roedden nhw wedi drysu’n lân, ond yna’n sydyn dyma ddau ddyn mewn dillad llachar yn sefyll wrth eu hymyl. Roedd y gwragedd wedi dychryn am eu bywydau, a dyma nhw’n plygu gyda’u hwynebau ar lawr o’u blaenau. Yna dyma’r dynion yn gofyn iddyn nhw, “Pam dych chi’n edrych mewn bedd am rywun sy’n fyw? Dydy Iesu ddim yma; mae yn ôl yn fyw! Dych chi ddim yn cofio beth ddwedodd e pan oedd gyda chi yn Galilea? Dwedodd y byddai e, Mab y Dyn, yn cael ei drosglwyddo i afael dynion pechadurus fyddai’n ei groeshoelio; ond yna ddeuddydd wedyn byddai e’n dod yn ôl yn fyw.” A dyma nhw’n cofio beth roedd wedi’i ddweud. Felly dyma nhw’n gadael y bedd a mynd yn ôl i ddweud beth oedd wedi digwydd wrth yr un ar ddeg disgybl a phawb arall. Aeth Mair Magdalen, Joanna, Mair mam Iago, a’r lleill gyda nhw, i ddweud yr hanes wrth yr apostolion. Ond doedd yr apostolion ddim yn eu credu nhw – roedden nhw’n meddwl fod y stori yn nonsens llwyr. Ond dyma Pedr yn rhedeg at y bedd i edrych. Plygodd i edrych i mewn i’r bedd a gweld y stribedi o liain yn gorwedd yno’n wag. Gadawodd y bedd yn methu’n lân a deall beth oedd wedi digwydd.
Luc 24:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar y dydd cyntaf o'r wythnos, ar doriad gwawr, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau yr oeddent wedi eu paratoi. Cawsant y maen wedi ei dreiglo i ffwrdd oddi wrth y bedd, ond pan aethant i mewn ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. Yna, a hwythau mewn penbleth ynglŷn â hyn, dyma ddau ddyn yn ymddangos iddynt mewn gwisgoedd llachar. Daeth ofn arnynt, a phlygasant eu hwynebau tua'r ddaear. Meddai'r dynion wrthynt, “Pam yr ydych yn ceisio ymhlith y meirw yr hwn sy'n fyw? Nid yw ef yma; y mae wedi ei gyfodi. Cofiwch fel y llefarodd wrthych tra oedd eto yng Ngalilea, gan ddweud ei bod yn rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylo pechaduriaid, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.” A daeth ei eiriau ef i'w cof. Dychwelsant o'r bedd, ac adrodd yr holl bethau hyn wrth yr un ar ddeg ac wrth y lleill i gyd. Mair Magdalen a Joanna a Mair mam Iago oedd y gwragedd hyn; a'r un pethau a ddywedodd y gwragedd eraill hefyd, oedd gyda hwy, wrth yr apostolion. Ond i'w tyb hwy, lol oedd yr hanesion hyn, a gwrthodasant gredu'r gwragedd. Ond cododd Pedr a rhedeg at y bedd; plygodd i edrych, ac ni welodd ddim ond y llieiniau. Ac aeth ymaith, gan ryfeddu wrtho'i hun at yr hyn oedd wedi digwydd.
Luc 24:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt. A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw? Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea, Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi. A hwy a gofiasant ei eiriau ef; Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.