Luc 23:50-52
Luc 23:50-52 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd yna ddyn o’r enw Joseff oedd yn dod o dref Arimathea yn Jwdea. Roedd yn ddyn da a gonest, ac yn aelod o’r Sanhedrin Iddewig, ond doedd e ddim wedi cytuno â’r penderfyniad wnaeth yr arweinwyr eraill. Roedd Joseff yn ddyn oedd yn disgwyl i Dduw ddod i deyrnasu. Aeth i ofyn i Peilat am ganiatâd i gymryd corff Iesu.
Luc 23:50-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd dyn o'r enw Joseff, aelod o'r Cyngor a dyn da a chyfiawn, nad oedd wedi cydsynio â'u penderfyniad a'u gweithred hwy. Yr oedd yn hanu o Arimathea, un o drefi'r Iddewon, ac yn disgwyl am deyrnas Dduw. Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.
Luc 23:50-52 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, gŵr a’i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn: (Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw; Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu.