Luc 23:44-47
Luc 23:44-47 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd hi tua chanol dydd erbyn hyn, ac aeth yn hollol dywyll drwy’r wlad i gyd hyd dri o’r gloch y p’nawn. Roedd fel petai golau’r haul wedi diffodd! Dyna pryd wnaeth y llen hir oedd yn hongian yn y deml rwygo yn ei hanner. A dyma Iesu’n gweiddi’n uchel, “Dad, dw i’n rhoi fy ysbryd yn dy ddwylo di,” ac ar ôl dweud hynny stopiodd anadlu a marw. Pan welodd y capten milwrol oedd yno beth ddigwyddodd, dechreuodd foli Duw a dweud, “Roedd y dyn yma’n siŵr o fod yn ddieuog!”
Luc 23:44-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Erbyn hyn yr oedd hi tua hanner dydd. Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn, a'r haul wedi diffodd. Rhwygwyd llen y deml yn ei chanol. Llefodd Iesu â llef uchel, “O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd.” A chan ddweud hyn bu farw. Pan welodd y canwriad yr hyn oedd wedi digwydd, dechreuodd ogoneddu Duw gan ddweud, “Yn wir, dyn cyfiawn oedd hwn.”
Luc 23:44-47 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. A’r haul a dywyllwyd, a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol. A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn.