Luc 23:39-43
Luc 23:39-43 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma un o’r troseddwyr oedd yn hongian yno yn dechrau’i regi: “Onid ti ydy’r Meseia? Achub dy hun, a ninnau hefyd!” Ond dyma’r troseddwr arall yn ei geryddu. “Does arnat ti ddim ofn Duw a thithau ar fin marw hefyd? Dŷn ni’n haeddu cael ein cosbi am yr hyn wnaethon ni. Ond wnaeth hwn ddim byd o’i le.” Yna meddai, “Iesu, cofia amdana i pan fyddi di’n teyrnasu.” Dyma Iesu’n ateb, “Wir i ti – cei di ddod gyda mi i baradwys heddiw.”
Luc 23:39-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, “Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau.” Ond atebodd y llall, a'i geryddu: “Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd? I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le.” Yna dywedodd, “Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas.” Atebodd yntau, “Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.”
Luc 23:39-43 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys.