Luc 23:33-34
Luc 23:33-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly ar ôl iddyn nhw gyrraedd y lle sy’n cael ei alw ‘Y Benglog’, dyma nhw’n hoelio Iesu ar groes, a’r ddau droseddwr arall un bob ochr iddo. Ond yr hyn ddwedodd Iesu oedd, “Dad, maddau iddyn nhw. Dŷn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” A dyma’r milwyr yn gamblo i weld pwy fyddai’n cael ei ddillad.
Luc 23:33-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo. Ac meddai Iesu, “O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.” A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad.
Luc 23:33-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy. A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.