Luc 22:7-38
Luc 22:7-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Daeth diwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd rhaid aberthu oen y Pasg). Dyma Iesu’n anfon Pedr ac Ioan yn eu blaenau i wneud y trefniadau. “Ewch i baratoi swper y Pasg i ni, er mwyn i ni i gyd gael bwyta gyda’n gilydd,” meddai wrthyn nhw. “Ble rwyt ti am i ni fynd i’w baratoi?” medden nhw wrtho. Atebodd e, “Wrth i chi fynd i mewn i’r ddinas bydd dyn yn dod i’ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl i mewn i’r tŷ y bydd yn mynd iddo, a gofyn i’r perchennog, ‘Mae’r athro eisiau gwybod ble mae’r ystafell westai, iddo ddathlu’r Pasg gyda’i ddisgyblion.’ Bydd yn mynd â chi i fyny’r grisiau i ystafell fawr wedi’i pharatoi’n barod. Gwnewch swper i ni yno.” I ffwrdd â nhw, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw’n paratoi swper y Pasg yno. Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd, a’i apostolion gydag e. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael bwyta’r swper Pasg yma gyda chi cyn i mi ddioddef. Dw i’n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i’r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.” Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a’i rannu rhyngoch. Dw i’n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.” Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy’n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.” Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae’r cwpan yma’n cynrychioli’r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy’n cael ei dywallt ar eich rhan chi. Ond mae’r un sy’n mynd i mradychu i yn eistedd wrth y bwrdd yma gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw fel mae wedi’i drefnu, ond gwae’r un sy’n mynd i’m bradychu i!” Yna dechreuodd y disgyblion drafod pwy ohonyn nhw fyddai’n gwneud y fath beth. Ond yna dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica. Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy’n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‘Cyfaill y bobl’! Ond dim fel yna dylech chi fod. Dylai’r pwysica ohonoch chi ymddwyn fel y person lleia pwysig, a dylai’r un sy’n arwain fod fel un sy’n gwasanaethu. Pwy ydy’r pwysica fel arfer? Ai’r sawl sy’n eistedd wrth y bwrdd neu’r sawl sy’n gwasanaethu? Y sawl sy’n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy’n gwasanaethu. “Dych chi wedi sefyll gyda mi drwy’r treialon, a dw i’n mynd i roi hawl i chi deyrnasu yn union fel gwnaeth y Tad ei roi i mi. Cewch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i pan fydda i’n teyrnasu, a byddwch yn eistedd ar orseddau i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel. “Simon, Simon – mae Satan wedi bod eisiau’ch cymryd chi i gyd i’ch ysgwyd a’ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith. Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi’n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau’r lleill.” “Ond Arglwydd,” meddai Pedr, “dw i’n fodlon mynd i’r carchar neu hyd yn oed farw drosot ti!” “Pedr,” meddai’r Arglwydd wrtho, “gwranda’n ofalus ar beth dw i’n ddweud. Cyn i’r ceiliog ganu bore fory byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di hyd yn oed yn fy nabod i.” Wedyn dyma Iesu’n gofyn i’w ddisgyblion, “Pan wnes i’ch anfon chi allan heb bwrs na bag teithio na sandalau sbâr, fuoch chi’n brin o gwbl?” “Naddo,” medden nhw. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Ond nawr, ewch â’ch pwrs a’ch bag gyda chi; ac os oes gynnoch chi ddim cleddyf, gwerthwch eich côt i brynu un. Mae’r broffwydoliaeth sy’n dweud, ‘Roedd yn cael ei ystyried yn un o’r gwrthryfelwyr’ , yn mynd i ddod yn wir. Ydy, mae’r cwbl sydd wedi’i ysgrifennu amdana i yn yr ysgrifau sanctaidd yn mynd i ddod yn wir.” “Edrych, Arglwydd,” meddai’r disgyblion, “mae gynnon ni ddau gleddyf yn barod!” “Dyna ddigon!” meddai.
Luc 22:7-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth dydd gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid lladd oen y Pasg. Anfonodd ef Pedr ac Ioan gan ddweud, “Ewch a pharatowch inni gael bwyta gwledd y Pasg.” Meddent hwy wrtho, “Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?” Atebodd hwy, “Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo, a dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae'r Athro yn gofyn i ti, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’ Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.” Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg. Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef. Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef! Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytâf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw.” Derbyniodd gwpan, ac wedi diolch meddai, “Cymerwch hwn a rhannwch ef ymhlith eich gilydd. Oherwydd rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd nes y daw teyrnas Dduw.” Cymerodd fara, ac wedi diolch fe'i torrodd a'i roi iddynt gan ddweud, “Hwn yw fy nghorff, sy'n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.” Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar ôl swper gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi. Ond dyma law fy mradychwr gyda'm llaw i ar y bwrdd. Oherwydd y mae Mab y Dyn yn wir yn mynd ymaith, yn ôl yr hyn sydd wedi ei bennu, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir ef ganddo!” A dechreusant ofyn ymhlith ei gilydd p'run ohonynt oedd yr un oedd am wneud hynny. Cododd cweryl hefyd yn eu plith: p'run ohonynt oedd i'w gyfrif y mwyaf? Meddai ef wrthynt, “Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai sydd ag awdurdod drostynt yn cael eu galw yn gymwynaswyr. Ond peidiwch chwi â gwneud felly. Yn hytrach, bydded y mwyaf yn eich plith fel yr ieuengaf, a'r arweinydd fel un sy'n gweini. Pwy sydd fwyaf, yr un sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r un sy'n gweini? Onid yr un sy'n eistedd? Ond yr wyf fi yn eich plith fel un sy'n gweini. Chwi yw'r rhai sydd wedi dal gyda mi trwy gydol fy nhreialon. Ac fel y cyflwynodd fy Nhad deyrnas i mi, yr wyf finnau yn cyflwyno un i chwi; cewch fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy nheyrnas i, ac eistedd ar orseddau gan farnu deuddeg llwyth Israel. “Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd; ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr.” Meddai ef wrtho, “Arglwydd, gyda thi rwy'n barod i fynd i garchar ac i farwolaeth.” “Rwy'n dweud wrthyt, Pedr,” atebodd ef, “ni chân y ceiliog heddiw cyn y byddi wedi gwadu deirgwaith dy fod yn fy adnabod i.” Dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi allan heb bwrs na chod na sandalau, a fuoch yn brin o ddim?” “Naddo,” atebasant. Meddai yntau, “Ond yn awr, os oes gennych bwrs, ewch ag ef gyda chwi, a'ch cod yr un modd; ac os nad oes gennych gleddyf, gwerthwch eich mantell a phrynu un. Rwy'n dweud wrthych fod yn rhaid cyflawni ynof fi yr Ysgrythur sy'n dweud: ‘A chyfrifwyd ef gyda throseddwyr.’ Oherwydd y mae'r hyn a ragddywedwyd amdanaf fi yn dod i ben.” “Arglwydd,” atebasant hwy, “dyma ddau gleddyf.” Meddai yntau wrthynt, “Dyna ddigon.”
Luc 22:7-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom. A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn. A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion? Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno paratowch. A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant y pasg. A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch. Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd. Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw, trwy’r hwn y bradychir ef! Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny. A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau. Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y’ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim. Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi. A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.