Luc 22:60-62
Luc 22:60-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Meddai Pedr, “Ddyn, nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog. Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, “Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith.” Aeth allan ac wylo'n chwerw.
Luc 22:60-62 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Pedr, “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti’n sôn, ddyn!” A dyma’r ceiliog yn canu wrth iddo ddweud y peth. Dyma’r Arglwydd Iesu yn troi ac yn edrych yn syth ar Pedr. Yna cofiodd Pedr beth roedd yr Arglwydd wedi’i ddweud: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i’r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crio.
Luc 22:60-62 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog. A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.