Luc 22:56-62
Luc 22:56-62 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma un o’r morynion yn sylwi ei fod yn eistedd yno. Edrychodd hi’n ofalus arno yng ngolau’r tân, ac yna dweud, “Roedd y dyn yma gyda Iesu!” Ond gwadu wnaeth Pedr. “Dw i ddim yn nabod y dyn, ferch!” meddai. Yna ychydig yn ddiweddarach dyma rywun arall yn sylwi arno ac yn dweud, “Rwyt ti’n un ohonyn nhw!” “Na dw i ddim!” atebodd Pedr. Yna ryw awr yn ddiweddarach dyma rywun arall eto yn dweud, “Does dim amheuaeth fod hwn gyda Iesu; mae’n amlwg ei fod yn dod o Galilea.” Atebodd Pedr, “Does gen i ddim syniad am beth rwyt ti’n sôn, ddyn!” A dyma’r ceiliog yn canu wrth iddo ddweud y peth. Dyma’r Arglwydd Iesu yn troi ac yn edrych yn syth ar Pedr. Yna cofiodd Pedr beth roedd yr Arglwydd wedi’i ddweud: “Byddi di wedi gwadu dy fod yn fy nabod i dair gwaith cyn i’r ceiliog ganu.” Aeth allan yn beichio crio.
Luc 22:56-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwelodd morwyn ef yn eistedd wrth y tân, ac wedi syllu arno meddai, “Yr oedd hwn hefyd gydag ef.” Ond gwadodd ef a dweud, “Nid wyf fi'n ei adnabod, ferch.” Yn fuan wedi hynny gwelodd un arall ef, ac meddai, “Yr wyt tithau yn un ohonynt.” Ond meddai Pedr, “Nac ydwyf, ddyn.” Ymhen rhyw awr, dechreuodd un arall daeru, “Yn wir yr oedd hwn hefyd gydag ef, oherwydd Galilead ydyw.” Meddai Pedr, “Ddyn, nid wyf yn gwybod am beth yr wyt ti'n sôn.” Ac ar unwaith, tra oedd yn dal i siarad, canodd y ceiliog. Troes yr Arglwydd ac edrych ar Pedr, a chofiodd ef air yr Arglwydd wrtho, “Cyn i'r ceiliog ganu heddiw, fe'm gwedi i deirgwaith.” Aeth allan ac wylo'n chwerw.
Luc 22:56-62 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef. Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef. Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw. A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog. A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.