Luc 22:42-44
Luc 22:42-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
gan ddweud, “O Dad, os wyt ti'n fodlon, cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys i.” Ac ymddangosodd angel o'r nef iddo, a'i gyfnerthu. Gan gymaint ei ing, yr oedd yn gweddïo'n ddwysach, ac yr oedd ei chwys fel dafnau o waed yn diferu ar y ddaear.
Rhanna
Darllen Luc 22Luc 22:42-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.
Rhanna
Darllen Luc 22