Luc 22:31-34
Luc 22:31-34 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Simon, Simon – mae Satan wedi bod eisiau’ch cymryd chi i gyd i’ch ysgwyd a’ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith. Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi’n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau’r lleill.” “Ond Arglwydd,” meddai Pedr, “dw i’n fodlon mynd i’r carchar neu hyd yn oed farw drosot ti!” “Pedr,” meddai’r Arglwydd wrtho, “gwranda’n ofalus ar beth dw i’n ddweud. Cyn i’r ceiliog ganu bore fory byddi di wedi gwadu dair gwaith dy fod di hyd yn oed yn fy nabod i.”
Luc 22:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd; ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr.” Meddai ef wrtho, “Arglwydd, gyda thi rwy'n barod i fynd i garchar ac i farwolaeth.” “Rwy'n dweud wrthyt, Pedr,” atebodd ef, “ni chân y ceiliog heddiw cyn y byddi wedi gwadu deirgwaith dy fod yn fy adnabod i.”
Luc 22:31-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi.