Luc 22:24-33
Luc 22:24-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cododd cweryl hefyd yn eu plith: p'run ohonynt oedd i'w gyfrif y mwyaf? Meddai ef wrthynt, “Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai sydd ag awdurdod drostynt yn cael eu galw yn gymwynaswyr. Ond peidiwch chwi â gwneud felly. Yn hytrach, bydded y mwyaf yn eich plith fel yr ieuengaf, a'r arweinydd fel un sy'n gweini. Pwy sydd fwyaf, yr un sy'n eistedd wrth y bwrdd neu'r un sy'n gweini? Onid yr un sy'n eistedd? Ond yr wyf fi yn eich plith fel un sy'n gweini. Chwi yw'r rhai sydd wedi dal gyda mi trwy gydol fy nhreialon. Ac fel y cyflwynodd fy Nhad deyrnas i mi, yr wyf finnau yn cyflwyno un i chwi; cewch fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i yn fy nheyrnas i, ac eistedd ar orseddau gan farnu deuddeg llwyth Israel. “Simon, Simon, dyma Satan wedi eich hawlio chwi, i'ch gogrwn fel ŷd; ond yr wyf fi wedi deisyf drosot ti na fydd dy ffydd yn pallu. A thithau, pan fyddi wedi dychwelyd ataf, cadarnha dy frodyr.” Meddai ef wrtho, “Arglwydd, gyda thi rwy'n barod i fynd i garchar ac i farwolaeth.”
Luc 22:24-33 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Ond yna dyma ddadl yn codi yn eu plith nhw ynglŷn â pha un ohonyn nhw oedd y pwysica. Felly dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Mae brenhinoedd y cenhedloedd yn ei lordio hi dros bobl; ac mae pobl fawr eraill sy’n hoffi dangos eu hawdurdod yn cael teitlau fel ‘Cyfaill y bobl’! Ond dim fel yna dylech chi fod. Dylai’r pwysica ohonoch chi ymddwyn fel y person lleia pwysig, a dylai’r un sy’n arwain fod fel un sy’n gwasanaethu. Pwy ydy’r pwysica fel arfer? Ai’r sawl sy’n eistedd wrth y bwrdd neu’r sawl sy’n gwasanaethu? Y sawl sy’n eistedd wrth y bwrdd wrth gwrs! Ond dw i yma fel un sy’n gwasanaethu. “Dych chi wedi sefyll gyda mi drwy’r treialon, a dw i’n mynd i roi hawl i chi deyrnasu yn union fel gwnaeth y Tad ei roi i mi. Cewch chi fwyta ac yfed wrth fy mwrdd i pan fydda i’n teyrnasu, a byddwch yn eistedd ar orseddau i farnu deuddeg llwyth gwlad Israel. “Simon, Simon – mae Satan wedi bod eisiau’ch cymryd chi i gyd i’ch ysgwyd a’ch profi chi fel mae us yn cael ei wahanu oddi wrth y gwenith. Ond dw i wedi gweddïo drosot ti, Simon, y byddi di ddim yn colli dy ffydd. Felly pan fyddi di wedi troi’n ôl dw i eisiau i ti annog a chryfhau’r lleill.” “Ond Arglwydd,” meddai Pedr, “dw i’n fodlon mynd i’r carchar neu hyd yn oed farw drosot ti!”
Luc 22:24-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau. Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau.