Luc 22:14-19
Luc 22:14-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd, a’i apostolion gydag e. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael bwyta’r swper Pasg yma gyda chi cyn i mi ddioddef. Dw i’n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i’r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.” Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a’i rannu rhyngoch. Dw i’n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.” Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy’n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.”
Luc 22:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef. Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef! Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytâf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw.” Derbyniodd gwpan, ac wedi diolch meddai, “Cymerwch hwn a rhannwch ef ymhlith eich gilydd. Oherwydd rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd nes y daw teyrnas Dduw.” Cymerodd fara, ac wedi diolch fe'i torrodd a'i roi iddynt gan ddweud, “Hwn yw fy nghorff, sy'n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.”
Luc 22:14-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.