Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 22:1-23

Luc 22:1-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd gŵyl y Bara Croyw, y Pasg fel y'i gelwir, yn agosáu. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yn ceisio modd i'w ladd, oherwydd yr oedd arnynt ofn y bobl. Ac aeth Satan i mewn i Jwdas, a elwid Iscariot, hwnnw oedd yn un o'r Deuddeg. Aeth ef a thrafod gyda'r prif offeiriaid a swyddogion gwarchodlu'r deml sut i fradychu Iesu iddynt. Cytunasant yn llawen iawn i dalu arian iddo. Cydsyniodd yntau, a dechreuodd geisio cyfle i'w fradychu ef iddynt heb i'r dyrfa wybod. Daeth dydd gŵyl y Bara Croyw, pryd yr oedd yn rhaid lladd oen y Pasg. Anfonodd ef Pedr ac Ioan gan ddweud, “Ewch a pharatowch inni gael bwyta gwledd y Pasg.” Meddent hwy wrtho, “Ble yr wyt ti am inni ei pharatoi?” Atebodd hwy, “Wedi i chwi fynd i mewn i'r ddinas fe ddaw dyn i'ch cyfarfod, yn cario stenaid o ddŵr. Dilynwch ef i'r tŷ yr â i mewn iddo, a dywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae'r Athro yn gofyn i ti, “Ble mae f'ystafell, lle yr wyf i fwyta gwledd y Pasg gyda'm disgyblion?” ’ Ac fe ddengys ef i chwi oruwchystafell fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.” Aethant ymaith, a chael fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt, a pharatoesant wledd y Pasg. Pan ddaeth yr awr, cymerodd ei le wrth y bwrdd, a'r apostolion gydag ef. Meddai wrthynt, “Mor daer y bûm yn dyheu am gael bwyta gwledd y Pasg hwn gyda chwi cyn imi ddioddef! Oherwydd rwy'n dweud wrthych na fwytâf hi byth hyd nes y cyflawnir hi yn nheyrnas Dduw.” Derbyniodd gwpan, ac wedi diolch meddai, “Cymerwch hwn a rhannwch ef ymhlith eich gilydd. Oherwydd rwy'n dweud wrthych nad yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd nes y daw teyrnas Dduw.” Cymerodd fara, ac wedi diolch fe'i torrodd a'i roi iddynt gan ddweud, “Hwn yw fy nghorff, sy'n cael ei roi er eich mwyn chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf.” Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan ar ôl swper gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i, sy'n cael ei dywallt er eich mwyn chwi. Ond dyma law fy mradychwr gyda'm llaw i ar y bwrdd. Oherwydd y mae Mab y Dyn yn wir yn mynd ymaith, yn ôl yr hyn sydd wedi ei bennu, ond gwae'r dyn hwnnw y bradychir ef ganddo!” A dechreusant ofyn ymhlith ei gilydd p'run ohonynt oedd yr un oedd am wneud hynny.

Luc 22:1-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd hi’n agos at Ŵyl y Bara Croyw, sy’n dechrau gyda dathlu’r Pasg. Roedd y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dal i edrych am ffordd i gael gwared â Iesu. Ond roedd arnyn nhw ofn beth fyddai’r bobl yn ei wneud. Ond yna aeth Satan i mewn i Jwdas Iscariot, oedd yn un o’r deuddeg disgybl. Aeth Jwdas at y prif offeiriaid a swyddogion diogelwch y deml, i drafod sut y gallai fradychu Iesu iddyn nhw. Roedden nhw wrth eu bodd, a dyma nhw’n addo rhoi arian iddo. Cytunodd yntau a dechrau edrych am gyfle i fradychu Iesu iddyn nhw pan oedd y dyrfa ddim o gwmpas. Daeth diwrnod cyntaf Gŵyl y Bara Croyw (hynny ydy, y diwrnod pan oedd rhaid aberthu oen y Pasg). Dyma Iesu’n anfon Pedr ac Ioan yn eu blaenau i wneud y trefniadau. “Ewch i baratoi swper y Pasg i ni, er mwyn i ni i gyd gael bwyta gyda’n gilydd,” meddai wrthyn nhw. “Ble rwyt ti am i ni fynd i’w baratoi?” medden nhw wrtho. Atebodd e, “Wrth i chi fynd i mewn i’r ddinas bydd dyn yn dod i’ch cyfarfod yn cario llestr dŵr. Ewch ar ei ôl i mewn i’r tŷ y bydd yn mynd iddo, a gofyn i’r perchennog, ‘Mae’r athro eisiau gwybod ble mae’r ystafell westai, iddo ddathlu’r Pasg gyda’i ddisgyblion.’ Bydd yn mynd â chi i fyny’r grisiau i ystafell fawr wedi’i pharatoi’n barod. Gwnewch swper i ni yno.” I ffwrdd â nhw, a digwyddodd popeth yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Felly dyma nhw’n paratoi swper y Pasg yno. Yn gynnar y noson honno eisteddodd Iesu wrth y bwrdd, a’i apostolion gydag e. Meddai wrthyn nhw, “Dw i wedi edrych ymlaen yn fawr at gael bwyta’r swper Pasg yma gyda chi cyn i mi ddioddef. Dw i’n dweud wrthoch chi y bydda i ddim yn ei fwyta eto nes i’r cwbl gael ei gyflawni pan ddaw Duw i deyrnasu.” Yna cymerodd gwpan o win, adrodd gweddi o ddiolch, ac yna dweud wrth ei ddisgyblion, “Cymerwch hwn a’i rannu rhyngoch. Dw i’n dweud wrthoch chi, fydda i ddim yn yfed gwin eto nes i Dduw ddod i deyrnasu.” Yna cymerodd dorth o fara, ac yna, ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, ei thorri a’i rhannu i’w ddisgyblion. “Dyma fy nghorff i, sy’n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.” Wedyn ar ôl bwyta swper gafaelodd yn y cwpan eto, a dweud, “Mae’r cwpan yma’n cynrychioli’r ymrwymiad newydd drwy fy ngwaed i, sy’n cael ei dywallt ar eich rhan chi. Ond mae’r un sy’n mynd i mradychu i yn eistedd wrth y bwrdd yma gyda mi. Rhaid i mi, Mab y Dyn, farw fel mae wedi’i drefnu, ond gwae’r un sy’n mynd i’m bradychu i!” Yna dechreuodd y disgyblion drafod pwy ohonyn nhw fyddai’n gwneud y fath beth.

Luc 22:1-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A nesaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y pasg. A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl. A Satan a aeth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg. Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt. Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo. Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl. A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom. A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn. A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion? Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno paratowch. A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant y pasg. A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch. Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd. Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw, trwy’r hwn y bradychir ef! Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.