Luc 20:1-8
Luc 20:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un diwrnod roedd Iesu’n dysgu’r bobl ac yn cyhoeddi’r newyddion da yn y deml. Dyma’r prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith a’r arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy yn union roddodd yr awdurdod i ti?” Atebodd Iesu, “Gadewch i mi ofyn un cwestiwn i chi’n gyntaf. Dwedwch wrtho i – Ai Duw anfonodd Ioan i fedyddio neu ddim?” Wrth drafod y peth gyda’i gilydd, dyma nhw’n dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu?’ Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’ … Bydd y bobl yn ein llabyddio ni â cherrig. Maen nhw’n credu’n gwbl bendant fod Ioan yn broffwyd.” Felly dyma nhw’n dweud eu bod nhw ddim yn gwybod yr ateb. “Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
Luc 20:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Un o'r dyddiau pan oedd ef yn dysgu'r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi'r newydd da, daeth y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd â'r henuriaid, ato, ac meddent wrtho, “Dywed wrthym trwy ba awdurdod yr wyt ti'n gwneud y pethau hyn, neu pwy roddodd i ti'r awdurdod hwn.” Atebodd ef hwy, “Fe ofynnaf finnau rywbeth i chwi. Dywedwch wrthyf: bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o'r byd daearol?” Dadleusant â'i gilydd gan ddweud, “Os dywedwn, ‘O'r nef’, fe ddywed, ‘Pam na chredasoch ef?’ Ond os dywedwn, ‘O'r byd daearol’, bydd yr holl bobl yn ein llabyddio, oherwydd y maent yn argyhoeddedig fod Ioan yn broffwyd.” Ac atebasant nad oeddent yn gwybod o ble'r oedd. Meddai Iesu wrthynt, “Ni ddywedaf finnau chwaith wrthych chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneud y pethau hyn.”
Luc 20:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A digwyddodd ar un o’r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn pregethu’r efengyl, ddyfod arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyda’r henuriaid, A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi: Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, ai o ddynion? Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef? Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a’n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd. A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.