Luc 2:36-38
Luc 2:36-38 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd gwraig o’r enw Anna, oedd yn broffwydes, yn y deml yr un pryd. Roedd yn ferch i Phanuel o lwyth Aser, ac yn hen iawn. Roedd hi wedi bod yn weddw ers i’w gŵr farw dim ond saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi. Erbyn hyn roedd hi’n wyth deg pedair mlwydd oed. Fyddai hi byth yn gadael y deml – roedd hi yno ddydd a nos yn addoli Duw, ac yn ymprydio a gweddïo. Daeth at Mair a Joseff pan oedd Simeon gyda nhw a dechrau moli Duw a diolch iddo. Roedd yn siarad am Iesu gyda phawb oedd yn edrych ymlaen at ryddid i Jerwsalem.
Luc 2:36-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd proffwydes hefyd, Anna merch Phanuel o lwyth Aser. Yr oedd hon yn oedrannus iawn, wedi byw saith mlynedd gyda'i gŵr ar ôl priodi, ac wedi parhau'n weddw nes ei bod yn awr yn bedair a phedwar ugain oed. Ni byddai byth yn ymadael â'r deml, ond yn addoli gan ymprydio a gweddïo ddydd a nos. A'r awr honno safodd hi gerllaw a moli Duw, a llefaru am y plentyn wrth bawb oedd yn disgwyl rhyddhad Jerwsalem.
Luc 2:36-38 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod; Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid âi allan o’r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos. A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem.