Luc 2:16-19
Luc 2:16-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb. A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn. A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt. Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.
Luc 2:16-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly i ffwrdd â nhw, a dyma nhw’n dod o hyd i Mair a Joseff a’r babi bach yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid. Ar ôl ei weld, dyma’r bugeiliaid yn mynd ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma. Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud. Ond roedd Mair yn cofio pob manylyn ac yn meddwl yn aml am y cwbl oedd wedi cael ei ddweud am ei phlentyn.
Luc 2:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Aethant ar frys, a chawsant hyd i Fair a Joseff, a'r baban yn gorwedd yn y preseb; ac wedi ei weld mynegasant yr hyn oedd wedi ei lefaru wrthynt am y plentyn hwn. Rhyfeddodd pawb a'u clywodd at y pethau a ddywedodd y bugeiliaid wrthynt; ond yr oedd Mair yn cadw'r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt.