Luc 2:15-20
Luc 2:15-20 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i’r nefoedd, dyma’r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, “Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae’r Arglwydd wedi’i ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd.” Felly i ffwrdd â nhw, a dyma nhw’n dod o hyd i Mair a Joseff a’r babi bach yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid. Ar ôl ei weld, dyma’r bugeiliaid yn mynd ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma. Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud. Ond roedd Mair yn cofio pob manylyn ac yn meddwl yn aml am y cwbl oedd wedi cael ei ddweud am ei phlentyn. Aeth y bugeiliaid yn ôl i’w gwaith gan ganmol a moli Duw am bopeth roedden nhw wedi’i weld a’i glywed. Roedd y cwbl yn union fel roedd yr angel wedi dweud.
Luc 2:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi i'r angylion fynd ymaith oddi wrthynt i'r nef, dechreuodd y bugeiliaid ddweud wrth ei gilydd, “Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd ni amdano.” Aethant ar frys, a chawsant hyd i Fair a Joseff, a'r baban yn gorwedd yn y preseb; ac wedi ei weld mynegasant yr hyn oedd wedi ei lefaru wrthynt am y plentyn hwn. Rhyfeddodd pawb a'u clywodd at y pethau a ddywedodd y bugeiliaid wrthynt; ond yr oedd Mair yn cadw'r holl bethau hyn yn ddiogel yn ei chalon ac yn myfyrio arnynt. Dychwelodd y bugeiliaid gan ogoneddu a moli Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, yn union fel y llefarwyd wrthynt.
Luc 2:15-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni. A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb. A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn. A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt. Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon. A’r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.