Luc 19:37-44
Luc 19:37-44 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Pan gyrhaeddon nhw’r fan lle mae’r ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dyma’r dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddi’n uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wedi’u gweld: “Mae’r Brenin sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr! ” “Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!” Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!” Atebodd Iesu, “Petaen nhw’n tewi, byddai’r cerrig yn dechrau gweiddi.” Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crio wrth weld y ddinas o’i flaen. “Petaet ti, hyd yn oed heddiw, ond wedi deall beth fyddai’n dod â heddwch parhaol i ti! Ond mae’n rhy hwyr, dwyt ti jest ddim yn gweld. Mae dydd yn dod pan fydd dy elynion yn codi gwrthglawdd yn dy erbyn ac yn dy gau i mewn ac ymosod arnat o bob cyfeiriad. Cei dy sathru dan draed, ti a’r bobl sy’n byw ynot. Bydd waliau’r ddinas yn cael eu chwalu’n llwyr, am dy fod wedi gwrthod dy Dduw ar y foment honno pan ddaeth i dy helpu di.”
Luc 19:37-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan oedd yn nesáu at y ffordd sy'n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd holl dyrfa ei ddisgyblion yn eu llawenydd foli Duw â llais uchel am yr holl wyrthiau yr oeddent wedi eu gweld, gan ddweud: “Bendigedig yw'r un sy'n dod yn frenin yn enw'r Arglwydd; yn y nef, tangnefedd, a gogoniant yn y goruchaf.” Ac meddai rhai o'r Phariseaid wrtho o'r dyrfa, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.” Atebodd yntau, “Rwy'n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.” Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti gan ddweud, “Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd—ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid. Oherwydd daw arnat ddyddiau pan fydd dy elynion yn codi clawdd yn dy erbyn, ac yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat o bob tu. Fe'th ddymchwelant hyd dy seiliau, ti a'th blant o'th fewn; ni adawant faen ar faen ynot ti, oherwydd dy fod heb adnabod yr amser pan ymwelwyd â thi.”
Luc 19:37-44 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent; Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf. A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, y llefai’r cerrig yn y fan. Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti, Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid. Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth, Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.