Luc 19:11-27
Luc 19:11-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y dyrfa’n gwrando ar bopeth roedd Iesu’n ei ddweud. Gan ei fod yn dod yn agos at Jerwsalem, dwedodd stori wrthyn nhw i gywiro’r syniad oedd gan bobl fod teyrnasiad Duw yn mynd i ddod unrhyw funud. Dyma’r stori: “Roedd rhyw ddyn pwysig aeth i ffwrdd i wlad bell i gael ei wneud yn frenin ar ei bobl. Ond cyn mynd, galwodd ddeg o’i weision ato a rhannu swm o arian rhyngddyn nhw. ‘Defnyddiwch yr arian yma i farchnata ar fy rhan, nes dof i yn ôl adre,’ meddai. “Ond roedd ei bobl yn ei gasáu, a dyma nhw’n anfon cynrychiolwyr ar ei ôl i ddweud eu bod nhw ddim eisiau iddo fod yn frenin arnyn nhw. “Ond cafodd ei wneud yn frenin, a phan ddaeth adre galwodd ato y gweision hynny oedd wedi rhoi’r arian iddyn nhw. Roedd eisiau gwybod oedden nhw wedi llwyddo i wneud elw. Dyma’r cyntaf yn dod, ac yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud elw mawr – deg gwaith cymaint â’r swm gwreiddiol! ‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Rwyt ti’n weithiwr da. Gan dy fod di wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, dw i am dy wneud di’n rheolwr ar ddeg dinas.’ “Wedyn dyma’r ail yn dod ac yn dweud ei fod yntau wedi gwneud elw – pum gwaith cymaint â’r swm gwreiddiol. ‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Dw i am dy osod di yn rheolwr ar bum dinas.’ “Wedyn dyma was arall yn dod ac yn rhoi’r arian oedd wedi’i gael yn ôl i’w feistr, a dweud, ‘Dw i wedi cadw’r arian yn saff i ti. Roedd gen i ofn gwneud colled gan dy fod di’n ddyn caled. Rwyt ti’n ecsbloetio pobl, ac yn dwyn eu cnydau nhw.’ “Atebodd y meistr, ‘Dw i’n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn dwyn eu cnydau nhw? Iawn! Dyna sut cei di dy drin gan dy fod ti’n was da i ddim! Pam wnest ti ddim rhoi’r arian mewn cyfri banc? Byddwn i o leia wedi’i gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’ “Felly dyma’r brenin yn rhoi gorchymyn i’r rhai eraill oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch yr arian oddi arno, a’i roi i’r un oedd wedi gwneud y mwya o elw!’ “‘Ond feistr,’ medden nhw, ‘Mae gan hwnnw hen ddigon yn barod!’ “Atebodd y meistr nhw, ‘Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy; ond am y rhai sy’n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw’n cael ei gymryd oddi arnyn nhw! Dw i’n mynd i ddelio gyda’r gelynion hynny oedd ddim eisiau i mi fod yn frenin arnyn nhw hefyd – dewch â nhw yma, a lladdwch nhw i gyd o mlaen i!’”
Luc 19:11-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Tra oeddent yn gwrando ar hyn, fe aeth ymlaen i ddweud dameg, am ei fod yn agos i Jerwsalem a hwythau'n tybied fod teyrnas Dduw i ymddangos ar unwaith. Meddai gan hynny, “Aeth dyn o uchel dras i wlad bell i gael ei wneud yn frenin, ac yna dychwelyd i'w deyrnas. Galwodd ato ddeg o'i weision a rhoi darn aur bob un iddynt, gan ddweud wrthynt, ‘Ewch i fasnachu nes imi ddychwelyd.’ Ond yr oedd ei ddeiliaid yn ei gasáu, ac anfonasant lysgenhadon ar ei ôl i ddatgan: ‘Ni fynnwn hwn yn frenin arnom.’ Ond dychwelodd ef wedi ei wneud yn frenin, a gorchmynnodd alw ato y gweision hynny yr oedd wedi rhoi'r arian iddynt, i gael gwybod pa lwyddiant yr oeddent wedi ei gael. Daeth y cyntaf ato gan ddweud, ‘Meistr, y mae dy ddarn aur wedi ennill ato ddeg darn arall.’ ‘Ardderchog, fy ngwas da,’ meddai yntau wrtho. ‘Am iti fod yn ffyddlon yn y pethau lleiaf, yr wyf yn dy benodi yn llywodraethwr ar ddeg tref.’ Daeth yr ail gan ddweud, ‘Y mae dy ddarn aur, Meistr, wedi gwneud pum darn.’ ‘Tithau hefyd,’ meddai wrth hwn yn ei dro, ‘bydd yn bennaeth ar bum tref.’ Yna daeth y trydydd gan ddweud, ‘Meistr, dyma dy ddarn aur. Fe'i cedwais yn ddiogel mewn cadach. Yr oedd arnaf dy ofn di. Yr wyt yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.’ ‘Â'th eiriau dy hun,’ atebodd ef, ‘y'th gondemniaf, y gwas drwg. Yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill. Pam felly na roddaist fy arian mewn banc? Buasai wedi ennill llog erbyn imi ddod i'w godi.’ Yna meddai wrth y rhai oedd yno, ‘Cymerwch y darn aur oddi arno a rhowch ef i'r un a chanddo ddeg darn.’ ‘Meistr,’ meddent hwy wrtho, ‘y mae ganddo ddeg darn yn barod.’ Rwy'n dweud wrthych, i bawb y mae ganddynt y rhoddir, ond oddi ar y rhai nad oes ganddynt fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddynt. A'm gelynion, y rheini na fynnent fi yn frenin arnynt, dewch â hwy yma a lladdwch hwy yn fy ngŵydd.”
Luc 19:11-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerwsalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan. Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo’i hun, ac i ddychwelyd. Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnatewch hyd oni ddelwyf. Eithr ei ddinaswyr a’i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom. A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw’r gweision hyn ato, i’r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata. A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt. Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas. A’r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas. Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn: Canys mi a’th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist. Yntau a ddywedodd wrtho, O’th enau dy hun y’th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais: A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog? Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo; (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;) Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.