Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 19:1-48

Luc 19:1-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd wedi dod i mewn i Jericho, ac yn mynd trwy'r dref. Dyma ddyn o'r enw Sacheus, un oedd yn brif gasglwr trethi ac yn ŵr cyfoethog, yn ceisio gweld p'run oedd Iesu; ond yr oedd yno ormod o dyrfa, ac yntau'n ddyn byr. Rhedodd ymlaen a dringo sycamorwydden er mwyn gweld Iesu, oherwydd yr oedd ar fynd heibio y ffordd honno. Pan ddaeth Iesu at y fan, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr ar dy union; y mae'n rhaid imi aros yn dy dŷ di heddiw.” Daeth ef i lawr ar ei union a'i groesawu yn llawen. Pan welsant hyn, dechreuodd pawb rwgnach ymhlith ei gilydd gan ddweud, “Y mae wedi mynd i letya at ddyn pechadurus.” Ond safodd Sacheus yno, ac meddai wrth yr Arglwydd, “Dyma hanner fy eiddo, syr, yn rhodd i'r tlodion; os mynnais arian ar gam gan neb, fe'i talaf yn ôl bedair gwaith.” “Heddiw,” meddai Iesu wrtho, “daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, oherwydd mab i Abraham yw'r gŵr hwn yntau. Daeth Mab y Dyn i geisio ac i achub y colledig.” Tra oeddent yn gwrando ar hyn, fe aeth ymlaen i ddweud dameg, am ei fod yn agos i Jerwsalem a hwythau'n tybied fod teyrnas Dduw i ymddangos ar unwaith. Meddai gan hynny, “Aeth dyn o uchel dras i wlad bell i gael ei wneud yn frenin, ac yna dychwelyd i'w deyrnas. Galwodd ato ddeg o'i weision a rhoi darn aur bob un iddynt, gan ddweud wrthynt, ‘Ewch i fasnachu nes imi ddychwelyd.’ Ond yr oedd ei ddeiliaid yn ei gasáu, ac anfonasant lysgenhadon ar ei ôl i ddatgan: ‘Ni fynnwn hwn yn frenin arnom.’ Ond dychwelodd ef wedi ei wneud yn frenin, a gorchmynnodd alw ato y gweision hynny yr oedd wedi rhoi'r arian iddynt, i gael gwybod pa lwyddiant yr oeddent wedi ei gael. Daeth y cyntaf ato gan ddweud, ‘Meistr, y mae dy ddarn aur wedi ennill ato ddeg darn arall.’ ‘Ardderchog, fy ngwas da,’ meddai yntau wrtho. ‘Am iti fod yn ffyddlon yn y pethau lleiaf, yr wyf yn dy benodi yn llywodraethwr ar ddeg tref.’ Daeth yr ail gan ddweud, ‘Y mae dy ddarn aur, Meistr, wedi gwneud pum darn.’ ‘Tithau hefyd,’ meddai wrth hwn yn ei dro, ‘bydd yn bennaeth ar bum tref.’ Yna daeth y trydydd gan ddweud, ‘Meistr, dyma dy ddarn aur. Fe'i cedwais yn ddiogel mewn cadach. Yr oedd arnaf dy ofn di. Yr wyt yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill.’ ‘Â'th eiriau dy hun,’ atebodd ef, ‘y'th gondemniaf, y gwas drwg. Yr oeddit yn gwybod, meddi, fy mod yn ddyn caled, yn cymryd yr hyn a ystoriodd eraill ac yn medi'r hyn a heuodd eraill. Pam felly na roddaist fy arian mewn banc? Buasai wedi ennill llog erbyn imi ddod i'w godi.’ Yna meddai wrth y rhai oedd yno, ‘Cymerwch y darn aur oddi arno a rhowch ef i'r un a chanddo ddeg darn.’ ‘Meistr,’ meddent hwy wrtho, ‘y mae ganddo ddeg darn yn barod.’ Rwy'n dweud wrthych, i bawb y mae ganddynt y rhoddir, ond oddi ar y rhai nad oes ganddynt fe gymerir hyd yn oed hynny sydd ganddynt. A'm gelynion, y rheini na fynnent fi yn frenin arnynt, dewch â hwy yma a lladdwch hwy yn fy ngŵydd.” Wedi dweud hyn aeth rhagddo ar ei ffordd i fyny i Jerwsalem, gan gerdded ar y blaen. Pan gyrhaeddodd yn agos i Bethffage a Bethania, ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o'i ddisgyblion gan ddweud, “Ewch i'r pentref gyferbyn. Wrth ichwi ddod i mewn iddo cewch yno ebol wedi ei rwymo, un nad oes neb wedi bod ar ei gefn erioed. Gollyngwch ef a dewch ag ef yma. Ac os bydd rhywun yn gofyn i chwi, ‘Pam yr ydych yn ei ollwng?’, dywedwch fel hyn: ‘Y mae ar y Meistr ei angen.’ ” Aeth y rhai a anfonwyd, a chael yr ebol, fel yr oedd ef wedi dweud wrthynt. Pan oeddent yn gollwng yr ebol, meddai ei berchenogion wrthynt, “Pam yr ydych yn gollwng yr ebol?” Atebasant hwythau, “Y mae ar y Meistr ei angen,” a daethant ag ef at Iesu. Yna taflasant eu mentyll ar yr ebol, a gosod Iesu ar ei gefn. Wrth iddo fynd yn ei flaen, yr oedd pobl yn taenu eu mentyll ar y ffordd. Pan oedd yn nesáu at y ffordd sy'n disgyn o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd holl dyrfa ei ddisgyblion yn eu llawenydd foli Duw â llais uchel am yr holl wyrthiau yr oeddent wedi eu gweld, gan ddweud: “Bendigedig yw'r un sy'n dod yn frenin yn enw'r Arglwydd; yn y nef, tangnefedd, a gogoniant yn y goruchaf.” Ac meddai rhai o'r Phariseaid wrtho o'r dyrfa, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.” Atebodd yntau, “Rwy'n dweud wrthych, os bydd y rhain yn tewi, bydd y cerrig yn gweiddi.” Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas, wylodd drosti gan ddweud, “Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd—ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid. Oherwydd daw arnat ddyddiau pan fydd dy elynion yn codi clawdd yn dy erbyn, ac yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat o bob tu. Fe'th ddymchwelant hyd dy seiliau, ti a'th blant o'th fewn; ni adawant faen ar faen ynot ti, oherwydd dy fod heb adnabod yr amser pan ymwelwyd â thi.” Aeth i mewn i'r deml a dechrau bwrw allan y rhai oedd yn gwerthu, gan ddweud wrthynt, “Y mae'n ysgrifenedig: “ ‘A bydd fy nhŷ i yn dŷ gweddi, ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.’ ” Yr oedd yn dysgu o ddydd i ddydd yn y deml. Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion, ynghyd ag arweinwyr y bobl, yn ceisio modd i'w ladd, ond heb daro ar ffordd i wneud hynny, oherwydd fod yr holl bobl yn gwrando arno ac yn dal ar ei eiriau.

Luc 19:1-48 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Aeth Iesu yn ei flaen i mewn i Jericho, ac roedd yn mynd drwy’r dref. Roedd dyn o’r enw Sacheus yn byw yno – Iddew oedd yn arolygwr yn adran casglu trethi Rhufain. Roedd yn ddyn hynod o gyfoethog. Roedd arno eisiau gweld Iesu, ond roedd yn ddyn byr ac yn methu ei weld am fod gormod o dyrfa o’i gwmpas. Rhedodd ymlaen a dringo coeden sycamorwydden oedd i lawr y ffordd lle roedd Iesu’n mynd, er mwyn gallu gweld. Pan ddaeth Iesu at y goeden, edrychodd i fyny a dweud wrtho, “Sacheus, tyrd i lawr. Mae’n rhaid i mi ddod i dy dŷ di heddiw.” Dringodd Sacheus i lawr ar unwaith a rhoi croeso brwd i Iesu i’w dŷ. Doedd y bobl welodd hyn ddim yn hapus o gwbl! Roedden nhw’n cwyno a mwmblan, “Mae wedi mynd i aros i dŷ ‘pechadur’ – dyn ofnadwy!” Ond dyma Sacheus yn dweud wrth Iesu, “Arglwydd, dw i’n mynd i roi hanner popeth sydd gen i i’r rhai sy’n dlawd. Ac os ydw i wedi twyllo pobl a chymryd mwy o drethi nag y dylwn i, tala i bedair gwaith cymaint yn ôl iddyn nhw.” Meddai Iesu, “Mae’r bobl sy’n byw yma wedi gweld beth ydy achubiaeth heddiw. Mae’r dyn yma wedi dangos ei fod yn fab i Abraham. Dw i, Mab y Dyn, wedi dod i chwilio am y rhai sydd ar goll, i’w hachub nhw.” Roedd y dyrfa’n gwrando ar bopeth roedd Iesu’n ei ddweud. Gan ei fod yn dod yn agos at Jerwsalem, dwedodd stori wrthyn nhw i gywiro’r syniad oedd gan bobl fod teyrnasiad Duw yn mynd i ddod unrhyw funud. Dyma’r stori: “Roedd rhyw ddyn pwysig aeth i ffwrdd i wlad bell i gael ei wneud yn frenin ar ei bobl. Ond cyn mynd, galwodd ddeg o’i weision ato a rhannu swm o arian rhyngddyn nhw. ‘Defnyddiwch yr arian yma i farchnata ar fy rhan, nes dof i yn ôl adre,’ meddai. “Ond roedd ei bobl yn ei gasáu, a dyma nhw’n anfon cynrychiolwyr ar ei ôl i ddweud eu bod nhw ddim eisiau iddo fod yn frenin arnyn nhw. “Ond cafodd ei wneud yn frenin, a phan ddaeth adre galwodd ato y gweision hynny oedd wedi rhoi’r arian iddyn nhw. Roedd eisiau gwybod oedden nhw wedi llwyddo i wneud elw. Dyma’r cyntaf yn dod, ac yn dweud ei fod wedi llwyddo i wneud elw mawr – deg gwaith cymaint â’r swm gwreiddiol! ‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Rwyt ti’n weithiwr da. Gan dy fod di wedi bod yn ffyddlon wrth drin yr ychydig rois i yn dy ofal di, dw i am dy wneud di’n rheolwr ar ddeg dinas.’ “Wedyn dyma’r ail yn dod ac yn dweud ei fod yntau wedi gwneud elw – pum gwaith cymaint â’r swm gwreiddiol. ‘Da iawn ti!’ meddai’r meistr, ‘Dw i am dy osod di yn rheolwr ar bum dinas.’ “Wedyn dyma was arall yn dod ac yn rhoi’r arian oedd wedi’i gael yn ôl i’w feistr, a dweud, ‘Dw i wedi cadw’r arian yn saff i ti. Roedd gen i ofn gwneud colled gan dy fod di’n ddyn caled. Rwyt ti’n ecsbloetio pobl, ac yn dwyn eu cnydau nhw.’ “Atebodd y meistr, ‘Dw i’n ddyn caled ydw i – yn ecsbloetio pobl ac yn dwyn eu cnydau nhw? Iawn! Dyna sut cei di dy drin gan dy fod ti’n was da i ddim! Pam wnest ti ddim rhoi’r arian mewn cyfri banc? Byddwn i o leia wedi’i gael yn ôl gyda rhyw fymryn o log!’ “Felly dyma’r brenin yn rhoi gorchymyn i’r rhai eraill oedd yn sefyll yno, ‘Cymerwch yr arian oddi arno, a’i roi i’r un oedd wedi gwneud y mwya o elw!’ “‘Ond feistr,’ medden nhw, ‘Mae gan hwnnw hen ddigon yn barod!’ “Atebodd y meistr nhw, ‘Bydd y rhai sydd wedi gwneud defnydd da o beth sydd ganddyn nhw yn derbyn mwy; ond am y rhai sy’n gwneud dim byd, bydd hyd yn oed yr ychydig sydd ganddyn nhw’n cael ei gymryd oddi arnyn nhw! Dw i’n mynd i ddelio gyda’r gelynion hynny oedd ddim eisiau i mi fod yn frenin arnyn nhw hefyd – dewch â nhw yma, a lladdwch nhw i gyd o mlaen i!’” Ar ôl dweud y stori, aeth Iesu yn ei flaen i gyfeiriad Jerwsalem. Pan oedd ar fin cyrraedd Bethffage a Bethania wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, dwedodd wrth ddau o’i ddisgyblion, “Ewch i’r pentref acw sydd o’ch blaen. Wrth fynd i mewn iddo, dewch o hyd i ebol wedi’i rwymo – un does neb wedi bod ar ei gefn o’r blaen. Dewch â’r ebol i mi. Os bydd rhywun yn gofyn, ‘Pam dych chi’n ei ollwng yn rhydd?’ dwedwch wrthyn nhw, ‘Mae’r meistr ei angen.’” Felly i ffwrdd â’r ddau ddisgybl; a dyna lle roedd yr ebol yn union fel roedd Iesu wedi dweud. Wrth iddyn nhw ei ollwng yn rhydd, dyma’r rhai oedd biau’r ebol yn dweud, “Hei! Beth ydych chi’n ei wneud?” “Mae’r meistr ei angen,” medden nhw. Pan ddaethon nhw â’r ebol at Iesu dyma nhw’n taflu’u cotiau drosto, a dyma Iesu’n eistedd ar ei gefn. Wrth iddo fynd yn ei flaen, dyma bobl yn rhoi eu cotiau fel carped ar y ffordd. Pan gyrhaeddon nhw’r fan lle mae’r ffordd yn mynd i lawr o Fynydd yr Olewydd, dyma’r dyrfa oedd yn dilyn Iesu yn dechrau gweiddi’n uchel a chanu mawl i Dduw o achos yr holl wyrthiau rhyfeddol roedden nhw wedi’u gweld: “Mae’r Brenin sy’n dod i gynrychioli’r Arglwydd wedi’i fendithio’n fawr! ” “Heddwch yn y nefoedd a chlod i Dduw yn y goruchaf!” Ond dyma ryw Phariseaid oedd yn y dyrfa yn troi at Iesu a dweud, “Athro, cerydda dy ddisgyblion am ddweud y fath bethau!” Atebodd Iesu, “Petaen nhw’n tewi, byddai’r cerrig yn dechrau gweiddi.” Wrth iddyn nhw ddod yn agos at Jerwsalem dyma Iesu yn dechrau crio wrth weld y ddinas o’i flaen. “Petaet ti, hyd yn oed heddiw, ond wedi deall beth fyddai’n dod â heddwch parhaol i ti! Ond mae’n rhy hwyr, dwyt ti jest ddim yn gweld. Mae dydd yn dod pan fydd dy elynion yn codi gwrthglawdd yn dy erbyn ac yn dy gau i mewn ac ymosod arnat o bob cyfeiriad. Cei dy sathru dan draed, ti a’r bobl sy’n byw ynot. Bydd waliau’r ddinas yn cael eu chwalu’n llwyr, am dy fod wedi gwrthod dy Dduw ar y foment honno pan ddaeth i dy helpu di.” Aeth i mewn i gwrt y deml a dechrau gyrru allan bawb oedd yn gwerthu yno. Meddai wrthyn nhw, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud, ‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi’ ; ond dych chi wedi troi’r lle yn ‘guddfan i ladron’ !” Wedi hynny, roedd yn mynd i’r deml bob dydd ac yn dysgu’r bobl. Roedd y prif offeiriaid, yr arbenigwyr yn y Gyfraith, a’r arweinwyr crefyddol eraill yn cynllwynio i’w ladd. Ond doedden nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud, gan fod y bobl gyffredin yn dal ar bob gair roedd yn ei ddweud.

Luc 19:1-48 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho. Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Saccheus, ac efe oedd ben-publican, a hwn oedd gyfoethog. Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth. Ac efe a redodd o’r blaen, ac a ddringodd i sycamorwydden, fel y gallai ei weled ef; oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno. A phan ddaeth yr Iesu i’r lle, efe a edrychodd i fyny, ac a’i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Saccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddiw aros yn dy dŷ di. Ac efe a ddisgynnodd ar frys, ac a’i derbyniodd ef yn llawen. A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned ohono ef i mewn i letya at ŵr pechadurus. A Saccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i’r tlodion; ac os dygais ddim o’r eiddo neb trwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd. A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddiw y daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, oherwydd ei fod yntau yn fab i Abraham. Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid. Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddameg, am ei fod efe yn agos i Jerwsalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan. Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo’i hun, ac i ddychwelyd. Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnatewch hyd oni ddelwyf. Eithr ei ddinaswyr a’i casasant ef, ac a ddanfonasant genadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom. A bu, pan ddaeth efe yn ei ôl, wedi derbyn y deyrnas, erchi ohono ef alw’r gweision hyn ato, i’r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnata. A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a enillodd ddeg punt. Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da: am i ti fod yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas. A’r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt. Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bum dinas. Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napgyn: Canys mi a’th ofnais, am dy fod yn ŵr tost: yr wyt ti yn cymryd i fyny y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist. Yntau a ddywedodd wrtho, O’th enau dy hun y’th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn ŵr tost, yn cymryd i fyny y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais: A phaham na roddaist fy arian i i’r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyda llog? Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i’r hwn sydd â deg punt ganddo; (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;) Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o’r blaen, gan fyned i fyny i Jerwsalem. Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethffage a Bethania, i’r mynydd a elwir Olewydd, efe a anfonodd ddau o’i ddisgyblion, Gan ddywedyd, Ewch i’r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma. Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i’r Arglwydd wrtho. A’r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt. Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol? A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i’r Arglwydd wrtho ef. A hwy a’i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno. Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd. Ac weithian, ac efe yn nesáu at ddisgynfa mynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion lawenhau, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent; Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf. A rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddisgyblion. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai’r rhai hyn, y llefai’r cerrig yn y fan. Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti, Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid. Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth, Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad. Ac efe a aeth i mewn i’r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu; Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron. Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a phenaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef; Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrando arno.