Luc 17:7-10
Luc 17:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Pan mae eich gwas yn dod i’r tŷ ar ôl bod wrthi’n aredig y tir neu’n gofalu am y defaid drwy’r dydd, ydych chi’n dweud wrtho, ‘Tyrd i eistedd i lawr yma, a bwyta’? Na, dych chi’n dweud, ‘Gwna swper i mi gyntaf. Cei di fwyta wedyn.’ A dych chi ddim yn diolch iddo, am fod y gwas ddim ond yn gwneud beth mae gwas i fod i’w wneud. Felly chithau – ar ôl gwneud popeth dw i’n ei ofyn, dylech chi ddweud, ‘Dŷn ni’n haeddu dim. Gweision ydyn ni, sydd ddim ond yn gwneud beth mae disgwyl i ni ei wneud.’”
Luc 17:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Os oes gan un ohonoch was sy'n aredig neu'n bugeilio, a fydd yn dweud wrtho pan ddaw i mewn o'r caeau, ‘Tyrd yma ar unwaith a chymer dy le wrth y bwrdd’? Na, yr hyn a ddywed fydd, ‘Paratoa swper imi; torcha dy wisg a gweina arnaf nes imi orffen bwyta ac yfed; ac wedyn cei fwyta ac yfed dy hun.’ A yw'n diolch i'w was am gyflawni'r gorchmynion a gafodd? Felly chwithau; pan fyddwch wedi cyflawni'r holl orchmynion a gawsoch, dywedwch, ‘Gweision ydym, heb unrhyw deilyngdod; cyflawni ein dyletswydd a wnaethom.’ ”
Luc 17:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu’n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes, Dos ac eistedd i lawr i fwyta? Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau? Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied. Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.