Luc 16:10-13
Luc 16:10-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Os gellir eich trystio chi gyda phethau bach, gellir eich trystio chi gyda phethau mawr. Ond os ydych chi’n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda phethau mawr? Felly os dych chi ddim yn onest wrth drin arian, pwy sy’n mynd i’ch trystio chi gyda’r gwir gyfoeth? Os dych chi ddim yn onest wrth drin eiddo pobl eraill, pwy sy’n mynd i roi eiddo i chi ei gadw i chi’ch hun? “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.”
Luc 16:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd. Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud? Ac os na fuoch yn gywir wrth drin eiddo pobl eraill, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hunain? Ni all unrhyw was wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.”
Luc 16:10-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a’r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer. Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud? Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun? Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon.