Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 16:1-15

Luc 16:1-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma Iesu’n dweud y stori yma wrth ei ddisgyblion: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn cyflogi fforman, ac wedi clywed sibrydion ei fod yn gwastraffu ei eiddo. Felly dyma’r dyn yn galw’r fforman i’w weld, a gofyn iddo, ‘Beth ydy hyn dw i’n ei glywed amdanat ti? Dw i eisiau gweld y llyfrau cyfrifon. Os ydy’r stori’n wir, cei di’r sac.’ “‘Beth wna i?’ meddyliodd y fforman. ‘Dw i’n mynd i golli fy job. Dw i ddim yn ddigon cryf i fod yn labrwr, a fyddwn i byth yn gallu cardota. Dw i’n gwybod! Dw i’n mynd i wneud rhywbeth fydd yn rhoi digon o ffrindiau i mi, wedyn pan fydda i allan o waith bydd digon o bobl yn rhoi croeso i mi yn eu cartrefi.’ “A dyma beth wnaeth – cysylltodd â phob un o’r bobl oedd mewn dyled i’w feistr. Gofynnodd i’r cyntaf, ‘Faint o ddyled sydd arnat ti i’m meistr i?’ “‘Wyth can galwyn o olew olewydd,’ meddai. “Yna meddai’r fforman, ‘Tafla’r bil i ffwrdd. Gad i ni ddweud mai pedwar cant oedd e.’ “Yna gofynnodd i un arall, ‘Faint ydy dy ddyled di?’ “‘Can erw o wenith,’ atebodd. “‘Tafla’r bil i ffwrdd,’ meddai’r fforman. ‘Dwedwn ni wyth deg.’ “Roedd rhaid i’r meistr edmygu’r fforman am fod mor graff, er ei fod yn anonest. Ac mae’n wir fod pobl y byd yn fwy craff wrth drin pobl eraill na phobl y golau. Dw i’n dweud wrthoch chi, gwnewch ffrindiau drwy ddefnyddio’ch arian er lles pobl eraill. Pan fydd gynnoch chi ddim ar ôl, bydd croeso i chi yn y nefoedd. “Os gellir eich trystio chi gyda phethau bach, gellir eich trystio chi gyda phethau mawr. Ond os ydych chi’n twyllo gyda phethau bach, sut mae eich trystio chi gyda phethau mawr? Felly os dych chi ddim yn onest wrth drin arian, pwy sy’n mynd i’ch trystio chi gyda’r gwir gyfoeth? Os dych chi ddim yn onest wrth drin eiddo pobl eraill, pwy sy’n mynd i roi eiddo i chi ei gadw i chi’ch hun? “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr gwahanol ar yr un pryd. Mae un yn siŵr o gael y flaenoriaeth ar draul y llall. Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian ar yr un pryd.” Pan glywodd y Phariseaid hyn roedden nhw’n gwneud hwyl am ben Iesu, gan eu bod nhw’n hoff iawn o’u harian. Ond dyma Iesu’n dweud wrthyn nhw, “Dych chi’n hoffi rhoi’r argraff eich bod chi mor dduwiol, ond mae Duw yn gwybod beth sydd yn eich calonnau chi! Mae beth mae pobl yn ei gyfri’n bwysig yn ffiaidd yng ngolwg Duw.”

Luc 16:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dywedodd wrth ei ddisgyblion hefyd, “Yr oedd dyn cyfoethog a chanddo oruchwyliwr. Achwynwyd wrth ei feistr fod hwn yn gwastraffu ei eiddo ef. Galwodd ef ato a dweud wrtho, ‘Beth yw'r hanes hwn amdanat? Dyro imi gyfrifon dy oruchwyliaeth, oherwydd ni elli gadw dy swydd bellach.’ Yna meddai'r goruchwyliwr wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi? Y mae fy meistr yn cymryd fy swydd oddi arnaf. Nid oes gennyf mo'r nerth i labro, ac y mae arnaf gywilydd cardota. Fe wn i beth a wnaf i gael croeso i gartrefi pobl pan ddiswyddir fi.’ Galwodd ato bob un o ddyledwyr ei feistr, ac meddai wrth y cyntaf, ‘Faint sydd arnat i'm meistr?’ Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o olew olewydd.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘eistedd i lawr, ac ysgrifenna ar unwaith “bum cant.” ’ Yna meddai wrth un arall, ‘A thithau, faint sydd arnat ti?’ Atebodd yntau, ‘Mil o fesurau o rawn.’ ‘Cymer dy gyfrif,’ meddai ef, ‘ac ysgrifenna “wyth gant.” ’ Cymeradwyodd y meistr y goruchwyliwr anonest am iddo weithredu yn gall; oherwydd y mae plant y byd hwn yn gallach na phlant y goleuni yn eu hymwneud â'u tebyg. Ac rwyf fi'n dweud wrthych, gwnewch gyfeillion i chwi eich hunain o'r Mamon anonest, er mwyn i chwi gael croeso i'r tragwyddol bebyll pan ddaw dydd Mamon i ben. Y mae rhywun sy'n gywir yn y pethau lleiaf yn gywir yn y pethau mawr hefyd, a'r un sy'n anonest yn y pethau lleiaf yn anonest yn y pethau mawr hefyd. Gan hynny, os na fuoch yn gywir wrth drin y Mamon anonest, pwy a ymddirieda i chwi y gwir olud? Ac os na fuoch yn gywir wrth drin eiddo pobl eraill, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hunain? Ni all unrhyw was wasanaethu dau feistr; oherwydd bydd un ai'n casáu'r naill ac yn caru'r llall, neu'n deyrngar i'r naill ac yn dirmygu'r llall. Ni allwch wasanaethu Duw a Mamon.” Yr oedd y Phariseaid, sy'n bobl ariangar, yn gwrando ar hyn oll ac yn ei watwar. Ac meddai wrthynt, “Chwi yw'r rhai sy'n ceisio eu cyfiawnhau eu hunain yng ngolwg y cyhoedd, ond y mae Duw yn adnabod eich calonnau; oherwydd yr hyn sydd aruchel yng ngolwg y cyhoedd, ffieiddbeth yw yng ngolwg Duw.

Luc 16:1-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef. Ac efe a’i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr. A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus gennyf. Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i’w tai. Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain. Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain. A’r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o’r mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y’ch derbyniont i’r tragwyddol bebyll. Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a’r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer. Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud? Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun? Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon. A’r Phariseaid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a’i gwatwarasant ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyda dynion, sydd ffiaidd gerbron Duw.