Luc 15:3-7
Luc 15:3-7 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Felly dyma Iesu’n dweud y stori yma wrthyn nhw: “Dychmygwch fod gan un ohonoch chi gant o ddefaid, a bod un ohonyn nhw wedi mynd ar goll. Oni fyddai’n gadael y naw deg naw ar y tir agored ac yn mynd i chwilio am y ddafad aeth ar goll nes dod o hyd iddi? A phan mae’n dod o hyd iddi mae mor llawen! Mae’n ei chodi ar ei ysgwyddau ac yn mynd adre. Wedyn mae’n galw’i ffrindiau a’i gymdogion draw, ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Dewch i ddathlu; dw i wedi dod o hyd i’r ddafad oedd wedi mynd ar goll.’ Wir i chi, dyna sut mae hi yn y nefoedd – mae mwy o ddathlu am fod un pechadur wedi troi at Dduw nag am naw deg naw o bobl sy’n meddwl eu bod nhw’n iawn a dim angen newid!
Luc 15:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A dywedodd ef y ddameg hon wrthynt: “Bwriwch fod gan un ohonoch chwi gant o ddefaid, a digwydd iddo golli un ohonynt; onid yw'n gadael y naw deg a naw yn yr anialdir ac yn mynd ar ôl y ddafad golledig nes dod o hyd iddi? Wedi dod o hyd iddi y mae'n ei gosod ar ei ysgwyddau yn llawen, yn mynd adref, ac yn gwahodd ei gyfeillion a'i gymdogion ynghyd, gan ddweud wrthynt, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd yr wyf wedi cael hyd i'm dafad golledig.’ Rwy'n dweud wrthych, yr un modd bydd mwy o lawenydd yn y nef am un pechadur sy'n edifarhau nag am naw deg a naw o rai cyfiawn nad oes arnynt angen edifeirwch.
Luc 15:3-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a adroddodd wrthynt y ddameg hon, gan ddywedyd, Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw’n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? Ac wedi iddo ei chael, efe a’i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen. A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a’i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid. Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.