Luc 15:25-32
Luc 15:25-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Yr oedd ei fab hynaf yn y caeau. Pan nesaodd at y tŷ ar ei ffordd adref, clywodd sŵn cerddoriaeth a dawnsio. Galwodd un o'r gweision ato a gofyn beth oedd ystyr hyn. ‘Dy frawd sydd wedi dychwelyd,’ meddai ef wrtho, ‘ac am iddo ei gael yn ôl yn holliach, y mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi ei besgi.’ Digiodd ef, a gwrthod mynd i mewn. Daeth ei dad allan a'i gymell yn daer i'r tŷ, ond atebodd ef, ‘Yr holl flynyddoedd hyn bûm yn was bach iti, heb anufuddhau erioed i'th orchymyn. Ni roddaist erioed i mi gymaint â myn gafr, imi gael gwledda gyda'm cyfeillion. Ond pan ddychwelodd hwn, dy fab sydd wedi difa dy eiddo gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo oedd wedi ei besgi.’ ‘Fy mhlentyn,’ meddai'r tad wrtho, ‘yr wyt ti bob amser gyda mi, ac y mae'r cwbl sydd gennyf yn eiddo i ti. Yr oedd yn rhaid gwledda a llawenhau, oherwydd yr oedd hwn, dy frawd, wedi marw, a daeth yn fyw; yr oedd ar goll, a chafwyd hyd iddo.’ ”
Luc 15:25-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Tra oedd hyn i gyd yn digwydd roedd y mab hynaf allan yn gweithio yn y caeau. Wrth ddod yn ôl at y tŷ roedd yn clywed sŵn cerddoriaeth a dawnsio. Galwodd fachgen ifanc ato, a gofyn iddo beth oedd yn digwydd. ‘Mae dy frawd yma!’ meddai hwnnw, ‘Mae dy dad wedi lladd y llo oedd wedi’i besgi i ddathlu ei fod wedi’i gael yn ôl yn saff.’ “Ond dyma’r mab hynaf yn digio, a gwrthod mynd i mewn. Felly dyma’i dad yn dod allan a chrefu arno i fynd i mewn. Ond meddai wrth ei dad, ‘Edrych! Dw i wedi slafio ar hyd y blynyddoedd yma, heb erioed wrthod gwneud unrhyw beth i ti. Ches i erioed fyn gafr gen ti i gael parti gyda fy ffrindiau! Ond dyma hwn yn dod adre – y mab yma sydd gen ti – yr un sydd wedi gwastraffu dy arian di i gyd ar buteiniaid. O! mae’n rhaid i ti ladd y llo sydd wedi’i besgi i hwn!’ “‘Machgen i,’ meddai’r tad wrtho, ‘rwyt ti yma bob amser, a ti sydd biau popeth sydd gen i ar ôl. Ond roedd rhaid i ni ddathlu – roedd dy frawd wedi marw, ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd e ar goll, ond dŷn ni wedi’i gael yn ôl!’”
Luc 15:25-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio. Ac wedi iddo alw un o’r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn. Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a’th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach. Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion: Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyda phuteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig. Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a’r eiddof fi oll ydynt eiddot ti. Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.