Luc 15:17-19
Luc 15:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth ato'i hun a dweud, ‘Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn? Fe godaf, ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, “Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti; cymer fi fel un o'th weision cyflog.” ’
Luc 15:17-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Yna o’r diwedd, calliodd, ac meddai ‘Beth dw i’n ei wneud yn y fan yma yn llwgu i farwolaeth? Mae dad yn cyflogi gweithwyr, ac mae ganddyn nhw ddigonedd o fwyd. Af i adre at dad, a dweud wrtho: Dad, dw i wedi pechu yn erbyn Duw ac yn dy erbyn di. Dw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab i ti ddim mwy. Gad i mi fod yn un o’r gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gen ti.’
Luc 15:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna daeth ato'i hun a dweud, ‘Faint o weision cyflog sydd gan fy nhad, a phob un ohonynt yn cael mwy na digon o fara, a minnau yma yn marw o newyn? Fe godaf, ac fe af at fy nhad a dweud wrtho, “Fy nhad, pechais yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Nid wyf mwyach yn haeddu fy ngalw'n fab iti; cymer fi fel un o'th weision cyflog.” ’
Luc 15:17-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a’u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn? Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; Ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti: gwna fi fel un o’th weision cyflog.