Luc 14:33-35
Luc 14:33-35 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dych chi yn yr un sefyllfa. All neb fod yn ddisgybl i mi heb roi heibio popeth arall er mwyn fy nilyn i. “Mae halen yn ddefnyddiol, ond pan mae’n colli ei flas pa obaith sydd i’w wneud yn hallt eto? Dydy e’n gwneud dim lles i’r pridd nac i’r domen dail; rhaid ei daflu i ffwrdd. “Gwrandwch yn ofalus os dych chi’n awyddus i ddysgu!”
Luc 14:33-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr un modd, gan hynny, ni all neb ohonoch nad yw'n ymwrthod â'i holl feddiannau fod yn ddisgybl i mi. “Peth da yw halen. Ond os cyll yr halen ei hun ei flas, â pha beth y rhoddir blas arno? Nid yw'n dda i'r pridd nac i'r domen; lluchir ef allan. Y sawl sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.”
Luc 14:33-35 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly hefyd, pob un ohonoch chwithau nid ymwrthodo â chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddisgybl i mi. Da yw’r halen: eithr o bydd yr halen yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef? Nid yw efe gymwys nac i’r tir, nac i’r domen; ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.