Luc 12:16-21
Luc 12:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac adroddodd ddameg wrthynt: “Yr oedd tir rhyw ŵr cyfoethog wedi dwyn cnwd da. A dechreuodd feddwl a dweud wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi, oherwydd nid oes gennyf unman i gasglu fy nghnydau iddo?’ Ac meddai, ‘Dyma beth a wnaf fi: tynnaf f'ysguboriau i lawr ac adeiladu rhai mwy, a chasglaf yno fy holl ŷd a'm heiddo. Yna dywedaf wrthyf fy hun, “Ddyn, y mae gennyt stôr o lawer o bethau ar gyfer blynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.” ’ Ond meddai Duw wrtho, ‘Yr ynfytyn, heno y mynnir dy einioes yn ôl gennyt, a phwy gaiff y pethau a baratoaist?’ Felly y bydd hi ar y rhai sy'n casglu trysor iddynt eu hunain a heb fod yn gyfoethog gerbron Duw.”
Luc 12:16-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dwedodd stori wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn cyfoethog yn berchen tir, a chafodd gnwd arbennig o dda un cynhaeaf. ‘Does gen i ddim digon o le i storio’r cwbl,’ meddai. ‘Beth wna i?’ “‘Dw i’n gwybod! Tynnu’r hen ysguboriau i lawr, ac adeiladau rhai mwy yn eu lle! Bydd gen i ddigon o le i storio popeth wedyn. Yna bydda i’n gallu eistedd yn ôl a dweud wrtho i’n hun, “Mae gen i ddigon i bara am flynyddoedd lawer. Dw i’n mynd i ymlacio a mwynhau fy hun yn bwyta ac yn yfed.”’ “Ond dyma Duw yn dweud wrtho, ‘Y ffŵl dwl! Heno ydy’r noson rwyt ti’n mynd i farw. Pwy fydd yn cael y cwbl rwyt ti wedi’i gasglu i ti dy hun?’ “Ie, fel yna bydd hi ar bobl sy’n casglu cyfoeth iddyn nhw’u hunain ond sy’n dlawd mewn gwirionedd, am eu bod heb Dduw.”
Luc 12:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac adroddodd ddameg wrthynt: “Yr oedd tir rhyw ŵr cyfoethog wedi dwyn cnwd da. A dechreuodd feddwl a dweud wrtho'i hun, ‘Beth a wnaf fi, oherwydd nid oes gennyf unman i gasglu fy nghnydau iddo?’ Ac meddai, ‘Dyma beth a wnaf fi: tynnaf f'ysguboriau i lawr ac adeiladu rhai mwy, a chasglaf yno fy holl ŷd a'm heiddo. Yna dywedaf wrthyf fy hun, “Ddyn, y mae gennyt stôr o lawer o bethau ar gyfer blynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.” ’ Ond meddai Duw wrtho, ‘Yr ynfytyn, heno y mynnir dy einioes yn ôl gennyt, a phwy gaiff y pethau a baratoaist?’ Felly y bydd hi ar y rhai sy'n casglu trysor iddynt eu hunain a heb fod yn gyfoethog gerbron Duw.”
Luc 12:16-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda. Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m da. A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen. Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist? Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.