Luc 11:39-42
Luc 11:39-42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond meddai'r Arglwydd wrtho, “Yr ydych chwi'r Phariseaid yn wir yn glanhau tu allan y cwpan a'r ddysgl, ond o'ch mewn yr ydych yn llawn anrhaith a drygioni. Ynfydion, onid yr hwn a wnaeth y tu allan a wnaeth y tu mewn hefyd? Ond rhowch yn elusen y pethau sydd y tu mewn i'r cwpan, a dyna bopeth yn lân ichwi. Ond gwae chwi'r Phariseaid, oherwydd yr ydych yn talu degwm o fintys a rhyw a phob llysieuyn, ond yn diystyru cyfiawnder a chariad Duw, yr union bethau y dylasech ofalu amdanynt, ond heb esgeuluso'r lleill.
Luc 11:39-42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r Arglwydd Iesu yn dweud wrtho, “Dych chi’r Phariseaid yn glanhau tu allan y cwpan neu’r ddysgl, ond y tu mewn dych chi’n gwbl hunanol a drwg! Y ffyliaid dall! Oes gan Dduw ddim diddordeb yn y tu mewn yn ogystal â’r tu allan? Rhowch beth sydd tu mewn i’r ddysgl i’r tlodion (yn lle ei gadw i chi’ch hunain) – wedyn byddwch yn lân i gyd. “Gwae chi’r Phariseaid! Dych chi’n ofalus iawn gyda rhyw fanion fel rhoi un rhan o ddeg o beth sydd gynnoch chi i Dduw – hyd yn oed o’ch mintys, arianllys a’ch perlysiau eraill! Ond dych chi’n esgeuluso byw’n gyfiawn a charu Duw. Dylech wneud y pethau pwysicach yma heb ddiystyru’r pethau eraill.
Luc 11:39-42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni. O ynfydion, onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd? Yn hytrach rhoddwch elusen o’r pethau sydd gennych: ac wele, pob peth sydd lân i chwi. Eithr gwae chwi’r Phariseaid! canys yr ydych chwi yn degymu’r mintys, a’r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.