Luc 11:33-36
Luc 11:33-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Does neb yn goleuo lamp ac wedyn yn ei gosod yn rhywle o’r golwg neu o dan fowlen. Mae lamp yn cael ei gosod mewn lle amlwg, fel bod pawb sy’n dod i mewn yn cael golau. Dy lygad di ydy lamp y corff. Mae llygad iach, sef bod yn hael, yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo. Ond llygad sâl ydy bod yn hunanol, a bydd dy gorff yn dywyll drwyddo. Felly gwylia, rhag ofn bod y golau sydd gen ti yn dywyllwch! Felly os ydy dy gorff yn olau drwyddo, heb dywyllwch yn unman, bydd dy fywyd i gyd yn olau fel petai lamp yn disgleirio arnat ti.”
Luc 11:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei rhoi mewn man cudd neu dan lestr, ond ar ganhwyllbren, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni. Dy lygad yw cannwyll dy gorff. Pan fydd dy lygad yn iach, y mae dy gorff hefyd yn llawn goleuni; ond pan fydd yn sâl, y mae dy gorff hefyd yn llawn tywyllwch. Ystyria gan hynny ai tywyllwch yw'r goleuni sydd ynot ti. Felly, os yw dy gorff yn llawn goleuni, heb unrhyw ran ohono mewn tywyllwch, bydd yn llawn goleuni, fel pan fydd cannwyll yn dy oleuo â'i llewyrch.”
Luc 11:33-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni. Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll. Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch. Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di.