Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 11:14-36

Luc 11:14-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yr oedd yn bwrw allan gythraul, a hwnnw'n un mud. Ac wedi i'r cythraul fynd allan, llefarodd y mudan. Synnodd y tyrfaoedd, ond meddai rhai ohonynt, “Trwy Beelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae'n bwrw allan gythreuliaid.” Yr oedd eraill am ei brofi, a gofynasant am arwydd ganddo o'r nef. Ond yr oedd ef yn deall eu meddyliau hwy, ac meddai wrthynt, “Caiff pob teyrnas a ymrannodd yn ei herbyn ei hun ei difrodi, a'r tai yn cwympo ar ben ei gilydd. Ac os yw Satan yntau wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, sut y saif ei deyrnas?—gan eich bod chwi'n dweud mai trwy Beelsebwl yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid. Ac os trwy Beelsebwl yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich disgyblion chwi yn eu bwrw allan? Am hynny hwy fydd yn eich barnu. Ond os trwy fys Duw yr wyf fi'n bwrw allan gythreuliaid, yna y mae teyrnas Dduw wedi cyrraedd atoch. Pan fydd dyn cryf yn ei arfwisg yn gwarchod ei blasty ei hun, bydd ei eiddo yn cael llonydd; ond pan fydd un cryfach nag ef yn ymosod arno ac yn ei drechu, bydd hwnnw'n cymryd yr arfwisg yr oedd ef wedi ymddiried ynddi, ac yn rhannu'r ysbail. Os nad yw rhywun gyda mi, yn fy erbyn i y mae, ac os nad yw'n casglu gyda mi, gwasgaru y mae. “Pan fydd ysbryd aflan yn mynd allan o rywun, bydd yn rhodio trwy fannau sychion gan geisio gorffwysfa, ond heb ei gael. Yna y mae'n dweud, ‘Mi ddychwelaf i'm cartref, y lle y deuthum ohono.’ Wedi cyrraedd, y mae'n ei gael wedi ei ysgubo a'i osod mewn trefn. Yna y mae'n mynd ac yn cymryd ato saith ysbryd arall mwy drygionus nag ef ei hun; y maent yn mynd i mewn ac yn ymgartrefu yno; ac y mae cyflwr olaf y dyn hwnnw yn waeth na'r cyntaf.” Wrth iddo ddweud hyn, cododd gwraig o'r dyrfa ei llais ac meddai wrtho, “Gwyn eu byd y groth a'th gariodd di a'r bronnau a sugnaist.” “Nage,” meddai ef, “gwyn eu byd y rhai sy'n clywed gair Duw ac yn ei gadw.” Wrth i'r tyrfaoedd gynyddu, dechreuodd lefaru: “Y mae'r genhedlaeth hon yn genhedlaeth ddrygionus; y mae'n ceisio arwydd. Eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona. Oherwydd fel y bu Jona yn arwydd i bobl Ninefe, felly y bydd Mab y Dyn yntau i'r genhedlaeth hon. Bydd Brenhines y De yn codi yn y Farn gyda phobl y genhedlaeth hon, ac yn eu condemnio hwy; oherwydd daeth hi o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Solomon. Bydd pobl Ninefe yn codi yn y Farn gyda'r genhedlaeth hon, ac yn ei chondemnio hi; oherwydd edifarhasant hwy dan genadwri Jona, ac yr ydych chwi'n gweld yma beth mwy na Jona. “Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei rhoi mewn man cudd neu dan lestr, ond ar ganhwyllbren, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni. Dy lygad yw cannwyll dy gorff. Pan fydd dy lygad yn iach, y mae dy gorff hefyd yn llawn goleuni; ond pan fydd yn sâl, y mae dy gorff hefyd yn llawn tywyllwch. Ystyria gan hynny ai tywyllwch yw'r goleuni sydd ynot ti. Felly, os yw dy gorff yn llawn goleuni, heb unrhyw ran ohono mewn tywyllwch, bydd yn llawn goleuni, fel pan fydd cannwyll yn dy oleuo â'i llewyrch.”

Luc 11:14-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd Iesu’n bwrw cythraul allan o ddyn oedd yn fud. Pan aeth y cythraul allan ohono dyma’r dyn yn dechrau siarad, ac roedd y bobl yno wedi’u syfrdanu. Ond roedd rhai yn dweud, “Beelsebwl (y diafol ei hun), tywysog y cythreuliaid, sy’n rhoi’r gallu iddo wneud hyn.” Ac roedd eraill yn ceisio cael Iesu i brofi ei hun drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol. Ond roedd Iesu’n gwybod beth oedd yn mynd drwy eu meddyliau, ac meddai wrthyn nhw: “Bydd teyrnas lle mae yna ryfel cartref yn syrthio, a bydd teulu sy’n ymladd â’i gilydd o hyd yn chwalu. Os ydy Satan yn ymladd ei hun, a’i deyrnas wedi’i rhannu, sut mae’n bosib i’w deyrnas sefyll? Dw i’n gofyn y cwestiwn am eich bod chi’n honni mai Beelsebwl sy’n rhoi’r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid. Felly os mai Beelsebwl sy’n rhoi’r gallu i mi, pwy sy’n rhoi’r gallu i’ch dilynwyr chi? Byddan nhw’n eich barnu chi! Ond os Duw sy’n rhoi’r gallu i mi fwrw allan gythreuliaid, yna mae Duw wedi dod i deyrnasu. “Pan mae dyn cryf arfog yn amddiffyn ei gartref, mae ei eiddo yn ddiogel. Ond pan mae rhywun cryfach yn ymosod arno a’i drechu, mae’n cymryd ei arfau oddi ar y dyn, ac yn dwyn ei eiddo. “Os ydy rhywun ddim ar fy ochr i, mae yn fy erbyn i. Ac os ydy rhywun ddim yn gweithio gyda mi, mae’n gweithio yn fy erbyn i. “Pan mae ysbryd drwg yn dod allan o rywun, mae’n mynd i grwydro lleoedd anial yn edrych am le i orffwys. Ond yna pan mae’n methu dod o hyd i rywle, mae’n meddwl, ‘Dw i am fynd yn ôl i lle roeddwn i’n byw.’ Mae’n cyrraedd ac yn darganfod y tŷ wedi’i lanhau a’i dacluso drwyddo. Wedyn mae’n mynd â saith ysbryd gwaeth na’i hun i fyw gydag e! Mae’r person mewn gwaeth cyflwr ar y diwedd nag oedd ar y dechrau!” Pan oedd Iesu wrthi’n dweud y pethau yma, dyma ryw wraig yn y dyrfa yn gweiddi, “Mae dy fam, wnaeth dy gario di’n ei chroth a’th fagu ar ei bronnau, wedi’i bendithio’n fawr!” Atebodd Iesu, “Mae’r rhai sy’n gwrando ar neges Duw ac yn ufuddhau iddo wedi’u bendithio’n fwy!” Wrth i’r dyrfa fynd yn fwy, meddai Iesu, “Mae’r genhedlaeth yma yn ddrwg. Mae pobl yn gofyn am gael gweld gwyrth fyddai’n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i. Ond yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona. Fel roedd beth ddigwyddodd i Jona yn arwydd i bobl Ninefe, bydd yr hyn fydd yn digwydd i mi, Mab y Dyn, yn arwydd i bobl y genhedlaeth yma. Bydd Brenhines Seba yn condemnio pobl y genhedlaeth yma ar ddydd y farn, achos roedd hi’n fodlon teithio o ben draw’r byd i wrando ar ddoethineb Solomon. Mae un mwy na Solomon yma nawr! Bydd pobl Ninefe hefyd yn condemnio pobl y genhedlaeth yma, am eu bod nhw wedi newid eu ffyrdd ar ôl clywed pregethu Jona. Mae un mwy na Jona yma nawr! “Does neb yn goleuo lamp ac wedyn yn ei gosod yn rhywle o’r golwg neu o dan fowlen. Mae lamp yn cael ei gosod mewn lle amlwg, fel bod pawb sy’n dod i mewn yn cael golau. Dy lygad di ydy lamp y corff. Mae llygad iach, sef bod yn hael, yn gwneud dy gorff yn olau drwyddo. Ond llygad sâl ydy bod yn hunanol, a bydd dy gorff yn dywyll drwyddo. Felly gwylia, rhag ofn bod y golau sydd gen ti yn dywyllwch! Felly os ydy dy gorff yn olau drwyddo, heb dywyllwch yn unman, bydd dy fywyd i gyd yn olau fel petai lamp yn disgleirio arnat ti.”

Luc 11:14-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i’r cythraul fyned allan, i’r mudan lefaru: a’r bobloedd a ryfeddasant. Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Trwy Beelsebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o’r nef. Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanheddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth. Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid. Ac os trwy Beelsebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi. Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diamau ddyfod teyrnas Dduw atoch chwi. Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae’r hyn sydd ganddo mewn heddwch: Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a’i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef. Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn: a’r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru. Pan êl yr ysbryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorffwystra: a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i’m tŷ o’r lle y deuthum allan. A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a’i drefnu. Yna yr â efe, ac y cymer ato saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na’i ddechreuad. A bu, fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, rhyw wraig o’r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y groth a’th ddug di, a’r bronnau a sugnaist. Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw. Ac wedi i’r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd; ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonas y proffwyd: Canys fel y bu Jonas yn arwydd i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn hefyd i’r genhedlaeth hon. Brenhines y deau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon, ac a’u condemnia hwynt; am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele un mwy na Solomon yma. Gwŷr Ninefe a godant i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemniant hi; am iddynt edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele un mwy na Jonas yma. Ac nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr; eithr ar ganhwyllbren, fel y gallo’r rhai a ddelo i mewn weled y goleuni. Cannwyll y corff yw’r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd olau; ond pan fyddo dy lygad yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd tywyll. Edrych am hynny rhag i’r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch. Os dy holl gorff gan hynny sydd olau, heb un rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn olau, megis pan fo cannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di.