Luc 10:39-41
Luc 10:39-41 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Roedd gan Martha chwaer o’r enw Mair, ac eisteddodd hi o flaen yr Arglwydd yn gwrando ar yr hyn roedd e’n ei ddweud. Ond roedd yr holl baratoadau roedd angen eu gwneud yn cymryd sylw Martha i gyd, a daeth at Iesu a gofyn iddo, “Arglwydd, wyt ti ddim yn poeni bod fy chwaer wedi gadael i mi wneud y gwaith i gyd? Dwed wrthi am ddod i helpu!” “Martha annwyl,” meddai’r Arglwydd wrthi, “rwyt ti’n poeni ac yn cynhyrfu am y pethau yna i gyd
Luc 10:39-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd ganddi hi chwaer a elwid Mair; eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd a gwrando ar ei air. Ond yr oedd Martha mewn dryswch oherwydd yr holl waith gweini, a daeth ato a dweud, “Arglwydd, a wyt ti heb hidio dim fod fy chwaer wedi fy ngadael i weini ar fy mhen fy hun? Dywed wrthi, felly, am fy nghynorthwyo.” Atebodd yr Arglwydd hi, “Martha, Martha, yr wyt yn pryderu ac yn trafferthu am lawer o bethau
Luc 10:39-41 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef. Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll gerllaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennyt am i’m chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu? dywed wrthi gan hynny am fy helpio. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, gofalus a thrafferthus wyt ynghylch llawer o bethau