Luc 10:33-34
Luc 10:33-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ond daeth teithiwr o Samariad ato; pan welodd hwn ef, tosturiodd wrtho. Aeth ato a rhwymo ei glwyfau, gan arllwys olew a gwin arnynt; gosododd ef ar ei anifail ei hun, a'i arwain i lety, a gofalu amdano.
Rhanna
Darllen Luc 10Luc 10:33-34 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond wedyn dyma Samariad yn dod i’r fan lle roedd y dyn yn gorwedd. Pan welodd e’r dyn, roedd yn teimlo trueni drosto. Aeth ato a rhwymo cadachau am ei glwyfau, a’u trin gydag olew a gwin. Yna cododd y dyn a’i roi ar gefn ei asyn ei hun, a dod o hyd i lety a gofalu amdano yno.
Rhanna
Darllen Luc 10Luc 10:33-34 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Eithr rhyw Samariad, wrth ymdaith, a ddaeth ato ef: a phan ei gwelodd, a dosturiodd, Ac a aeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin; ac a’i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a’i dug ef i’r llety, ac a’i hamgeleddodd.
Rhanna
Darllen Luc 10