Luc 10:27-29
Luc 10:27-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd yntau, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth ac â'th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun.’ ” Meddai ef wrtho, “Atebaist yn gywir; gwna hynny, a byw fyddi.” Ond yr oedd ef am ei gyfiawnhau ei hun, ac meddai wrth Iesu, “A phwy yw fy nghymydog?”
Luc 10:27-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Meddai’r dyn: “ ‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, â’th holl nerth ac â’th holl feddwl,’ a ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’ ” “Rwyt ti’n iawn!” meddai Iesu. “Gwna hynny a chei di fywyd.” Ond roedd y dyn eisiau cyfiawnhau ei hun, felly gofynnodd i Iesu, “Ond pwy ydy fy nghymydog i?”
Luc 10:27-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe gan ateb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymydog fel ti dy hun. Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi. Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?