Luc 10:25-32
Luc 10:25-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un tro safodd un o’r arbenigwyr yn y Gyfraith ar ei draed i roi prawf ar Iesu. Gofynnodd iddo, “Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” Atebodd Iesu, “Beth mae Cyfraith Moses yn ei ddweud? Sut wyt ti’n ei deall?” Meddai’r dyn: “ ‘Rwyt i garu’r Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, â’th holl nerth ac â’th holl feddwl,’ a ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti’n dy garu dy hun.’ ” “Rwyt ti’n iawn!” meddai Iesu. “Gwna hynny a chei di fywyd.” Ond roedd y dyn eisiau cyfiawnhau ei hun, felly gofynnodd i Iesu, “Ond pwy ydy fy nghymydog i?” Dyma sut atebodd Iesu: “Roedd dyn yn teithio i lawr o Jerwsalem i Jericho, a dyma ladron yn ymosod arno. Dyma nhw’n dwyn popeth oddi arno, ac yna ei guro cyn dianc. Cafodd ei adael bron yn farw ar ochr y ffordd. Dyma offeiriad Iddewig yn digwydd dod heibio, ond pan welodd y dyn yn gorwedd yno croesodd i ochr arall y ffordd a mynd yn ei flaen. A dyma un o Lefiaid y deml yn gwneud yr un peth; aeth i edrych arno, ond yna croesi’r ffordd a mynd yn ei flaen.
Luc 10:25-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma un o athrawon y Gyfraith yn codi i roi prawf arno, gan ddweud, “Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?” Meddai ef wrtho, “Beth sy'n ysgrifenedig yn y Gyfraith? Beth a ddarlleni di yno?” Atebodd yntau, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl nerth ac â'th holl feddwl, a châr dy gymydog fel ti dy hun.’ ” Meddai ef wrtho, “Atebaist yn gywir; gwna hynny, a byw fyddi.” Ond yr oedd ef am ei gyfiawnhau ei hun, ac meddai wrth Iesu, “A phwy yw fy nghymydog?” Atebodd Iesu, “Yr oedd rhyw ddyn yn mynd i lawr o Jerwsalem i Jericho, a syrthiodd i blith lladron. Wedi tynnu ei ddillad oddi amdano a'i guro, aethant ymaith, a'i adael yn hanner marw. Fel y digwyddodd, yr oedd offeiriad yn mynd i lawr ar hyd y ffordd honno; pan welodd ef, aeth heibio o'r ochr arall. Yr un modd daeth Lefiad hefyd at y man; gwelodd ef, ac aeth heibio o'r ochr arall.
Luc 10:25-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol? Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni? Ac efe gan ateb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth, ac â’th holl feddwl; a’th gymydog fel ti dy hun. Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn uniawn: gwna hyn, a byw fyddi. Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog? A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerwsalem i Jericho, ac a syrthiodd ymysg lladron; y rhai wedi ei ddiosg ef, a’i archolli, a aethant ymaith, gan ei adael yn hanner marw. Ac ar ddamwain rhyw offeiriad a ddaeth i waered y ffordd honno: a phan ei gwelodd, efe a aeth o’r tu arall heibio. A’r un ffunud Lefiad hefyd, wedi dyfod i’r fan, a’i weled ef, a aeth o’r tu arall heibio.