Luc 10:17-20
Luc 10:17-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddaeth y saith deg dau yn ôl, dyma nhw’n dweud yn frwd, “Arglwydd, mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ufuddhau i ni wrth i ni dy enwi di.” Atebodd Iesu, “Gwelais Satan yn syrthio fel mellten o’r awyr! Dw i wedi rhoi’r awdurdod i chi dros holl nerth y gelyn! Gallwch sathru ar nadroedd a sgorpionau a fydd dim byd yn gwneud niwed i chi! Ond peidiwch bod yn llawen am fod ysbrydion drwg yn ufuddhau i chi; y rheswm dros fod yn llawen ydy bod eich enwau wedi’u hysgrifennu yn y nefoedd.”
Luc 10:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dychwelodd y deuddeg a thrigain yn llawen, gan ddweud, “Arglwydd, y mae hyd yn oed y cythreuliaid yn ymddarostwng inni yn dy enw di.” Meddai wrthynt, “Yr oeddwn yn gweld Satan fel mellten yn syrthio o'r nef. Dyma fi wedi rhoi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac i drechu holl nerth y gelyn; ac ni'ch niweidir chwi gan ddim. Eto, peidiwch â llawenhau yn hyn, fod yr ysbrydion yn ymddarostwng i chwi; llawenhewch oherwydd fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.”
Luc 10:17-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r deg a thrigain a ddychwelasant gyda llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o’r nef. Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi. Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi; ond llawenhewch yn hytrach, am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd.