Luc 1:76-79
Luc 1:76-79 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A thithau, fy mab bach, byddi di’n cael dy alw yn broffwyd i’r Duw Goruchaf; oherwydd byddi’n mynd o flaen yr Arglwydd i baratoi’r ffordd ar ei gyfer. Byddi’n dangos i’w bobl sut mae cael eu hachub drwy i’w pechodau gael eu maddau. Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog, ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o’r nefoedd. Bydd yn disgleirio ar y rhai sy’n byw yn y tywyllwch gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw, ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.”
Luc 1:76-79 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A thithau, fy mhlentyn, gelwir di yn broffwyd y Goruchaf, oherwydd byddi'n cerdded o flaen yr Arglwydd i baratoi ei lwybrau, i roi i'w bobl wybodaeth am waredigaeth trwy faddeuant eu pechodau. Hyn yw trugaredd calon ein Duw— fe ddaw â'r wawrddydd oddi uchod i'n plith, i lewyrchu ar y rhai sy'n eistedd yn nhywyllwch cysgod angau, a chyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.”
Luc 1:76-79 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A thithau, fachgennyn, a elwir yn broffwyd i’r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl, trwy faddeuant o’u pechodau, Oherwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o’r uchelder, I lewyrchu i’r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.