Luc 1:57-66
Luc 1:57-66 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am Elisabeth, cyflawnwyd yr amser iddi esgor, a ganwyd iddi fab. Clywodd ei chymdogion a'i pherthnasau am drugaredd fawr yr Arglwydd iddi, ac yr oeddent yn llawenychu gyda hi. A'r wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei enwi ar ôl ei dad, Sachareias. Ond atebodd ei fam, “Nage, Ioan yw ei enw i fod.” Meddent wrthi, “Nid oes neb o'th deulu â'r enw hwnnw arno.” Yna gofynasant drwy arwyddion i'w dad sut y dymunai ef ei enwi. Galwodd yntau am lechen fach ac ysgrifennodd, “Ioan yw ei enw.” A synnodd pawb. Ar unwaith rhyddhawyd ei enau a'i dafod, a dechreuodd lefaru a bendithio Duw. Daeth ofn ar eu holl gymdogion, a bu trafod ar yr holl ddigwyddiadau hyn trwy fynydd-dir Jwdea i gyd; a chadwyd hwy ar gof gan bawb a glywodd amdanynt. “Beth gan hynny fydd y plentyn hwn?” meddent. Ac yn wir yr oedd llaw'r Arglwydd gydag ef.
Luc 1:57-66 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddaeth yr amser i fabi Elisabeth gael ei eni, bachgen bach gafodd hi. Clywodd ei chymdogion a’i pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi. Wythnos ar ôl i’r babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddai’n cael ei alw, yr un fath â’i dad. Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.” “Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gyda’r enw yna.” Felly dyma nhw’n gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galw’i fab. Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau, “Ioan ydy ei enw.” Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw. Roedd ei gymdogion i gyd wedi’u syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd. Roedd pawb yn gofyn, “Beth fydd hanes y plentyn yma?” Roedd hi’n amlwg i bawb fod llaw Duw arno.
Luc 1:57-66 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chyflawnwyd tymp Elisabeth i esgor; a hi a esgorodd ar fab. A’i chymdogion a’i chenedl a glybu fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni; a hwy a gydlawenychasant â hi. A bu, ar yr wythfed dydd hwy a ddaethant i enwaedu ar y dyn bach; ac a’i galwasant ef Sachareias, yn ôl enw ei dad. A’i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly; eithr Ioan y gelwir ef. Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn. A hwy a wnaethant amnaid ar ei dad ef, pa fodd y mynnai efe ei enwi ef. Yntau a alwodd am argrafflech, ac a ysgrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Jwdea y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. A phawb a’r a’u clywsant, a’u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.